91热爆

Beirniadu penodiad AS o Loegr yn weinidog Swyddfa Cymru

  • Cyhoeddwyd
Mims DaviesFfynhonnell y llun, UK Parliament
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Astudiodd Mims Davies, AS Eastleigh, ym Mhrifysgol Abertawe

Mae Llywodraeth y DU wedi cael eu cyhuddo o "ddirmyg" wedi iddyn nhw i benodi AS arall o Loegr yn is-weinidog newydd yn Swyddfa Cymru.

Cafodd Mims Davies ei phenodi'n is-weinidog yn Swyddfa Cymru ddydd Iau.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns bod Ms Davies yn "AS ffantastig" a bod ganddi'r gallu i ddefnyddio'i sgiliau yn y ffordd orau i gefnogi economi Cymru.

Ond mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi galw'r sefyllfa yn "j么c".

&#虫27;闯么肠&#虫27;

Mae Ms Davies yn cynrychioli etholaeth Eastleigh yn Hampshire ac yn cyfuno'i swydd ddi-d芒l newydd yn Swyddfa Cymru gyda'i dyletswyddau fel dirprwy chwip y llywodraeth.

Fe wnaeth hi astudio ei gradd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae hi'n olynu Stuart Andrew, AS o Sir Efrog, sydd wedi symud i hen swydd Guto Bebb, AS Aberconwy, yn y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Ymddiswyddodd Mr Bebb o'r swydd honno yn dilyn ffrae am Brexit.

Wrth groesawu'r apwyntiad dywedodd Mr Cairns y byddai Ms Davies yn "defnyddio ei sgiliau aruthrol yn y ffordd orau a chwarae r么l allweddol wrth gyflwyno erthyglau sy'n cefnogi twf economi Cymru."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd rhagflaenydd Ms Davies, Stuart Andrew, hefyd yn AS yn Lloegr ond wedi ei fagu yng ngogledd Cymru ac yn siarad Cymraeg

Serch hynny, mae rhai gwleidyddion o Lafur a Phlaid Cymru wedi beirniadu'r penodiad.

Ar ei chyfrif Twitter dywedodd Leanne Wood fod y sefyllfa'n "j么c Ff诺l Ebrill hwyr arall gan y Tor茂aid", gan ychwanegu: "Byddai'n amhosib dychmygu'r ffasiwn stori."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies: "AS arall o Loegr wedi eu penodi i Swyddfa Cymru... dyma beth mae Theresa May yn meddwl o'i gr诺p o Geidwadwyr Cymreig."

Ychwanegodd AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards: "Mae'r ffaith bod Llywodraeth San Steffan wedi penodi AS arall o'r tu allan i Gymru i Swyddfa Cymru eto yn dangos eu dirmyg cynyddol tuag at ein gwlad.

"Fel rhywun sy'n cynrychioli etholaeth tu allan i Gymru, ac felly'n annhebygol o ddeall anghenion unigryw ein heconomi a'n cymunedau, mae Mims Davies AS hefyd wedi gwrthsefyll dro ar 么l tro ar bleidleisiau pwysig neu'n gwrthwynebu datganoli pwerau allweddol i Gymru."