Titw Tomos Las, Hogia'r Wyddfa a Geraint Thomas
- Cyhoeddwyd
Roedd dydd Mercher yn ddiwrnod allweddol i Geraint Thomas wrth i'r seiclwr ddal ei afael ar y crys melyn yn y Tour de France - ac ymestyn ei fantais yn y broses.
Mae'r gŵr o Gaerdydd yn arwain ras seiclo mwyaf adnabyddus y byd, ac mae ei lwyddiant wedi ysbrydoli'r genedl.
Ond beth sy'n cysylltu Hogia'r Wyddfa a Geraint Thomas?
Diolch i raglen Aled Hughes ar 91Èȱ¬ Radio Cymru, mae Hogia'r Wyddfa - ynghyd â Band Pres Llareggub a Siddi - wedi ail recordio un o'u caneuon enwocaf, Titw Tomos Las, mewn teyrnged i gampau'r Cymro yn Ffrainc.
Dywedodd Arwel Jones, o Hogia'r Wyddfa: "Fe gyfansoddwyd y gân yn niwedd y 60au yn Ysgol Dolbadaran, Llanberis.
"Y diweddar Eirlys Pierce gyfansoddodd yr alaw i eiriau T. Llew Jones. Fel rhan o addysg y plant gychwynodd hi, ond erbyn heddiw mae'n canu clodydd Geraint Thomas."
Fel mae Arwel yn ei gydnabod, cefnogwyr Geraint sydd wedi cychwyn yr arferiad [ os nad ydy'r fideo yn ymddangos yn syth]:
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Erbyn hyn, mae'n debyg bod Geraint ei hun yn hoff iawn ohoni ac mae wedi dod yn ychydig o anthem ar y Tour iddo.
Tybed os welwn ni'r gân yn cyrraedd rhif un yn y siartiau os fydd Geraint yn fuddugol?
Mae modd edrych ar gymal 17 y Tour de France yn fyw ar ac ar Facebook Live ar dudalen am 14:00 ddydd Mercher.