91热爆

Y Cadeirio: Rhodd ariannol er cof am Beca

  • Cyhoeddwyd
Beca ChamberlainFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Beca Chamberlain yn 2009

Y Cadeirio fydd prif seremoni Eisteddfod Caerdydd 2018 ddydd Gwener.

Yr her i'r beirdd eleni yw cyfansoddi awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol a heb fod yn fwy na 250 o linellau, ar y testun Porth.

Mae'r gadair wedi ei chreu gan y cerflunydd Chris Williams o Gwm Rhondda, a bydd y wobr ariannol eleni'n cael ei rhoi er c么f am ferch o'r brifddinas fu farw o ganser yn 2009.

Penderfynodd John Walter a Gaynor Jones gynnig rhodd o 拢750 er cof am eu merch, Beca Chamberlain, fel cydnabyddiaeth o "bwysigrwydd yr iaith Gymraeg a Chymreictod iddi".

Bu farw Beca ym mis Gorffennaf 2009, wedi iddi ddatblygu math prin o ganser, sarcoma.

"Roedd Cymreictod yn golygu lot iddi," medd ei thad, John Walter Jones.

"Er ei bod hi wedi gadael ei chartref pan oedd hi'n 18 oed i fynd i Exeter ac Utrecht ac ati, 'dwi'n gwybod ei bod hi wedi mynd 芒'i Chymreictod efo hi.

"Hyd y dydd heddiw, mae ei ffrindiau di-Gymraeg hi oedd yn coleg ac yn gweithio efo hi yn Llundain ac ati yn gwybod faint oedd yr iaith Gymraeg a Chymreictod yn ei olygu iddi."

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe aeth Beca 芒'i Chymreictod gyda hi i bob man, medd ei thad, John Walter Jones

Nid dyma'r tro cyntaf i Mr a Mrs Jones benderfynu roi rhodd ariannol y gadair. "Nethon ni'r un peth yn Sir F么n y llynedd er cof am fy nhad a'n mam," meddai.

'Penderfynais i y liciwn i wneud rhywbeth tebyg yma yng Nghaerdydd, oherwydd roedd y ddau achlysur yn dod ag atgofion melys yn rhyfedd iawn, o fy mhlentyndod i yn Sir Fon a blynyddoedd Beca yma yng Nghaerdydd."

'Sterfod'

"Faswn i'n dweud taw Steddfod Caerdydd yn '78 oedd yr eisteddfod gyntaf y bydda hi Beca wedi ei gofio.

"Dwi'n cofio hi'n eistedd fan hyn yn cr茂o am ein bod ni wedi dweud nad oedd hi'n cael mynd i'r Steddfod, pan fathodd hi'r term "Sterfod" am yr achlysur, a "Sterfod" 'da ni'n dal i alw'r achlysur."

"Roedd e'n gwbl naturiol i'w wneud, cwbl bersonol, m'ond am y rheswm ei bod hi'n mwynhau mynd i'r steddfod.

"Doedd hi ddim yn cystadlu, ond roedd o'n golygu rhywbeth iddi, roedd o'n rhan o'i Chymreictod hi.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gadair eleni wedi ei noddi gan Amgueddfa Cymru

"Dwi'n credu, ym m锚r ei hesgyrn, y bydde hi'n falch ein bod ni'n gwneud hyn.

"Byddwn ni'n dau yno i gofio am Beca, achos mae'r adeg yma o'r flwyddyn yn anodd, ond 'dwi'n gwybod y byddai hi yn ymfalch茂o yn be' 'da ni 'di 'neud.

"Fydda Beca ddim yn cystadlu 芒 neb arall, ond roedd hi'n cystadlu yn ei herbyn hi ei hun, a 'dwi'n gwybod faint o ymroddiad oedd yn perthyn iddi hi cyn iddi wneud dim byd.

'Safonau uchel'

"Fasa hi ddim yn gwneud dim byd oni bai ei fod o, yn ei barn hi, yn berffaith.

"Roedd hi'n gosod safonau uchel, a 'dwi'n gwybod bod y rhai sy'n cystadlu am y gadair a'r goron a phopeth arall yn yr eisteddfod yn gosod eu safonau uchel eu hunain, felly 'dwi'n meddwl y byddai hi'n falch o hynny."