Carwyn Jones yn galw am 'hyblygrwydd' wrth drafod Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i'r Undeb Ewropeaidd ddangos "hyblygrwydd" yn ystod trafodaethau Brexit os am osgoi sefyllfa "drychinebus", yn 么l Prif Weinidog Cymru.
Ar drothwy cyfarfod ym Mrwsel gyda phrif drafodwr yr UE, Michel Barnier, dywedodd Carwyn Jones y byddai'n bosibl cyrraedd cytundeb drwy "gamu dros linellau coch".
Dywedodd Mr Jones fod cynllun Brexit diweddaraf Llywodraeth y DU - gafodd ei gyhoeddi wythnos diwethaf - yn "gymharol gredadwy".
Yn ystod ei ymweliad bydd Mr Jones yn gwneud araith ble mae disgwyl iddo ymateb i Bapur Gwyn Theresa May ac awgrymu sut y gall y ddwy ochr gydweithio i sicrhau cytundeb Brexit cyn bod Prydain yn gadael yr UE ym mis Mawrth 2019.
Bydd Mr Jones hefyd yn cyfarfod 芒 Syr Tim Barrow, Cynrychiolydd Parhaol y DU yn yr UE.
Mae Mrs May eisoes wedi ymrwymo i adael y farchnad sengl ac undeb tollau'r UE, ond mae ei Phapur Gwyn yn cynnig bod y DU yn glynu at reolau'r UE - ac felly'r Farchnad Sengl - pan ddaw hi at fasnach nwyddau ond nid gwasanaethau.
Mae'r ddogfen hefyd yn cynnig trefniant tollau newydd gyda Brwsel.
Gosod sylfaen
Dywedodd Mr Jones fod Ms May "o'r diwedd" wedi amlinellu sefyllfa negodi cymharol gredadwy ar gyfer trafodaethau 芒'r UE.
"Mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU yn cefnogi parhau i gymryd rhan yn rhannol yn y Farchnad Sengl a pharhau i gymryd rhan mewn Undeb Tollau dan unrhyw enw arall," meddai.
"Mae llawer o ddiffygion yn y cynigion ac mae gormod o gwestiynau o lawer yn parhau heb eu hateb.
"Fodd bynnag, rwy'n credu ei fod yn sail i ddechrau cynnal trafodaethau mwy difrifol."
Ychwanegodd: "Drwy gamu dros y llinellau coch a chydweithio, rwy'n credu y gallwn ddod i gytundeb sy'n sylfaen i berthynas economaidd hirdymor."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2018