Codi cwestiynau am ddosbarth canol Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Eleni mi fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld 芒 Bae Caerdydd - ardal sydd wedi datblygu a newid yn llwyr ers dyddiau'r hen ddociau a Tiger Bay.
Ac mae nifer o ardaloedd yng Nghaerdydd wedi gweld newidiadau mawr yn y degawdau diwethaf wrth i filoedd o bobl, o bob cwr o Gymru a thu hwnt, dyrru i'r ddinas gyffrous, modern a chosmopolitan.
Ond beth yw effaith y mewnfudo a'r holl ddatblygu ar drigolion lleol y ddinas? Ydy o'n f锚l i gyd?
Yma, mae'r colofnydd ifanc Yasmin Begum yn rhannu ei barn am sefyllfa fregus rhai o gymunedau Caerdydd. Mae hi'n gweld tebygrwydd gyda phroblemau tai haf yn y gogledd, ac yn codi cwestiynau anodd am dwf dosbarth canol y brifddinas:
Hyd yn oed i bobl sydd ddim yn 'nabod Caerdydd, mae'n amlwg i bawb fod 'na newidiadau enfawr wedi digwydd yn y brifddinas.
O'r gwaith adnewyddu yn yr Aes a chreu ardaloedd i gerddwyr yn unig yng nghanol y ddinas i'r dwsin a mwy o letyau newydd i fyfyrwyr. Ers sbel, rydym yn gwybod am adfywiad Caerdydd.
Roedd 'adfywio' yn cael ei ddefnyddio'n llac i ddisgrifio'r newid ddigwyddodd wrth i dde Butetown ddatblygu i Fae Caerdydd.
Roedd 'adfywio' yn gyfforddus a chyfarwydd gyda ffocws ar y gymuned. Ond, erbyn hyn mae 'na derm arall sy'n cael ei ddefnyddio wrth i'r ffenomena gyflymu yn y ddinas: (gentrification).
Dylanwad y dosbarth canol
Mae boneddigeiddio yn derm sy'n golygu 'y broses o adnewyddu a gwella t欧 neu ardal er mwyn bodloni chwaeth dosbarth canol'.
Ar gyfartaledd, mae traean dinas Caerdydd yn byw o dan y ffin tlodi, felly mae 'na lawer o botensial i adnewyddu er mwyn apelio i'r dosbarth canol.
Mae boneddigeiddio yn digwydd mewn nifer o ardaloedd yn y ddinas, nid yn Butetown yn unig, a hynny gan mai Caerdydd yw'r ddinas sy'n tyfu ail gyflymaf yn y Deyrnas Unedig, ar 么l Llundain.
Yn hanesyddol, Pontcanna yw gogledd Glanyrafon (Riverside), ond ei fod yn cael ei alw yn Pontcanna. Yn 2016, cafodd Pontcanna ei ddynodi yn 'ardal' swyddogol (wnaeth blesio'r estate agents yn fawr).
Yn 么l data ar dlodi gan gyngor Caerdydd, mae byw ym Mhontcanna yn golygu eich bod 31% yn llai tebygol o fyw mewn tlodi nag os fyddech chi'n byw lai na phum munud i lawr y ffordd yng Nglanyrafon.
Pwy feddylia bod cyfleoedd bywyd yn gallu newid cymaint mewn un ardal?
'Effaith y 91热爆'
Mae statws Glanyrafon yn ansicr, am resymau yn fwy na thlodi yn unig. Mae'n agos iawn, iawn i ganol y ddinas.
Mi fydd nifer o gorfforaethau yn fuan yn symud i'r Sgw芒r Canolog, tu fas i orsaf drenau Caerdydd Canolog, yn cynnwys y 91热爆, ac mae S4C wedi cyhoeddi bydd elfennau o'u gwaith yn symud yno yn ogystal ag i Gaerfyrddin.
Yn sydyn, mi fydd y tai Fictoraidd tair neu bedair ystafell wely yn ardaloedd tlotaf Glanyrafon yn apelio i'r rheiny sydd methu fforddio Pontcanna. Gydag ystafelloedd i'r plant a gerddi i'r c诺n, mi fydd yr ardaloedd yma ymhlith y cyntaf i fynd yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Fe ddigwyddodd rhywbeth tebyg yn ardaloedd mwyaf cyfoethog Llandaf ger Heol Llantrisant, safle pencadlys presennol 91热爆 Cymru; yr hyn oedd yn cael ei alw'n lleol yn 'Effaith y 91热爆'.
Darllenwyr The Guardian
Mae ardaloedd eraill y ddinas wedi mynd yn rhy ddrud oherwydd ffenomenau tebyg.
Mae Heol y Plwca (City Road) wedi dioddef nifer o danau ar prime real estate tra bod dros ddwsin o letyau i fyfyrwyr wedi eu hadeiladu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae Heol y Plwca wedi'i leoli yn ardal y Rhath: yn 2011, fe gyhoeddodd The Guardian erthygl o'r enw ''. Saith mlynedd yn ddiweddarach ac mae'r Rhath a Cathays yn cael eu hystyried yn rhy ddrud.
Mae prynwyr a rhentwyr tai yn anelu am rannau eraill cod post CF24 fel Y Sblot ac Adamsdown, wrth iddyn nhw gael mwy am eu harian mewn ardaloedd sy'n mynd drwy'r broses o foneddigeiddio ar hyn o bryd.
Gyda phroblem digartrefedd enfawr, prinder tai cymdeithasol a gwleidyddion Caerdydd o blaid boneddigeiddio, dydy dadleoli economaidd pobl ifanc o'r ddinas ddim yn cael ei daclo'n eang.
Ai Grangetown yw'r Pontcanna newydd?
Mae 'effaith Bae Caerdydd' wedi teithio i'r gogledd. Erbyn hyn mae Grangetown yn gartref i fwy a mwy o sefydliadau creadigol ac asiantaethau sydd wedi eu gwthio mas o Fae Caerdydd.
Mae rhent yn rhatach yn Grangetown. Mae tai hefyd yn rhatach yn Grangetown, er ddim am llawer hirach.
I ddweud y gwir, gallwch chi weld effaith boneddigeiddio wrth edrych ar y bwyd o Pakistan sydd ar gael ar un stryd yn Grangetown.
Mae un lle lle gallwch chi brynu onion bhaji am 拢1, ac ar yr un stryd mewn tafarn sydd wedi ei 'hadnewyddu' yn ddiweddar gallwch chi brynu onion bhaji burger am 拢10. Mae'n costio llai na 10c fel arfer i wneud onion bhaji.
Tai haf a'r ardaloedd gwledig
Nid dyma'r tro cyntaf i gymunedau yng Nghymru beidio allu prynu neu rentu yn eu hardaloedd lleol.
Yn y 70au a'r 80au, cafodd nifer fawr o ail gartrefi eu prynu yn ardaloedd gwledig gorllewin, canolbarth a gogledd Cymru.
Hyd heddiw, Gwynedd yw un o'r ardaloedd mwyaf poblogaidd yn y DU ar gyfer tai haf, gyda Cymdeithas yr Iaith yn dadlau y dylai pobl leol gael y cyfle cyntaf i brynu cartrefi, er mwyn lleihau allfudo.
Mae'r diffyg gweithredu ar y ddwy ffenomena yma, boneddigeiddio a phrynu ail gartrefi, yn codi cwestiynau yngl欧n 芒 pham nad yw gwleidyddion yn gwneud mwy a phwy, mewn gwirionedd, sy'n elwa o'r newidiadau yma sy'n niweidio cymunedau Cymreig.
Efallai o ddiddordeb: