91热爆

'Gwasanaeth eilradd' i gleifion iechyd meddwl y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Tawel Fan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd ward Tawel Fan ei chau ym mis Rhagfyr 2013 yn dilyn pryderon

Mae adroddiad newydd wedi beirniadu'r rheolaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, gan ei ddisgrifio fel gwasanaeth eilradd.

Mae adolygiad annibynnol Donna Ockenden yn dweud bod arweinyddiaeth yn "hollol amhriodol a hynod wallus" ers i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gael ei greu yn 2009.

Dywedodd yr adroddiad bod y bwrdd yn "brin o staff", a'u bod yn ddibynnol ar "ewyllys da" eu gweithwyr.

Wrth groesawu'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y byddan nhw'n ei ddefnyddio er mwyn gwella gwasanaethau a rheolaeth y bwrdd.

Dywedodd yr ysgrifennydd iechyd, Vaughan Gething y bydd ef ac aelodau'r bwrdd nawr yn canolbwyntio ar sicrhau'r gwelliannau angenrheidiol ar fyrder i gleifion a staff.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cwrdd i drafod yr adroddiad ddydd Iau

Mae'r adolygiad diweddaraf, a ddaw yn dilyn problemau yn ward Tawel Fan, yn canolbwyntio ar faterion arweinyddiaeth a llywodraethiant Betsi Cadwaladr.

Cafodd y ward seiciatrig 17 gwely ei chau yn 2013, ond fe benderfynodd yr ymchwiliad annibynnol nad oedd tystiolaeth o gam-drin sefydliadol yno.

'Pryderon difrifol'

Dywedodd Dr Ockenden bod staffio yn parhau'n her a bod hynny'n cael "effaith sylweddol" ar safon gofal i gleifion ac ysbryd staff.

Ychwanegodd bod rheolwyr yn ymwybodol o'r problemau dros y blynyddoedd, ond bod rhai o'r rheiny'n parhau, a hyd yn oed pan fo gwelliannau wedi'u gwneud, bod hynny'n digwydd yn "llawer rhy araf".

Yn 么l Dr Ockenden, mae hyn wedi arwain at bryderon mawr i gleifion, teuluoedd a staff.

'Pawb, a neb, wrth y llyw'

Wrth gyflwyno ei hadroddiad mewn cyfarfod o'r bwrdd iechyd ddydd Iau, dywedodd bod un gweithiwr wedi dweud wrthi fod "pawb, a neb, wrth y llyw".

Ychwanegodd fod staff clinigol wedi dweud wrthi nad oedd arweinwyr "yn deall y pwysau" o fod ar y rheng flaen mewn ysbytai.

Cyn i Tawel Fan gau, dywedodd fod "cymysgedd gwenwynig" o ddiffyg cyfeiriad gan y bwrdd, a bod unrhyw newidiadau'n cymryd blynyddoedd i ddechrau eu gweithredu.

Fe wnaeth Dr Ockenden annog y bwrdd bod angen cyflwyno newidiadau yn fuan i gwrdd 芒'i hargymhellion.

Dywedodd prif weithredwr y bwrdd iechyd, Gary Doherty, bod angen "cynyddu maint a chyflymder y gwelliannau".

Mae prif ganfyddiadau'r adroddiad yn cynnwys bod:

  • Diffyg goruchwyliaeth gan y bwrdd a chyfyngiadau ariannol wedi arwain at "wasanaeth eilradd" i gleifion iechyd meddwl, yn enwedig rhai h欧n;

  • Cleifion a'u gofalwyr wedi cwyno am oedi, gofid a diffyg urddas wrth geisio cael mynediad at ofal brys;

  • "Pryderon difrifol" am rheolaeth gweithwyr Betsi Cadwaladr ym maes iechyd meddwl, gyda'r gwasanaeth yn brin o staff ar adeg pan oedd nifer y cleifion yn cynyddu;

  • Polis茂au wedi dyddio yn parhau mewn defnydd, a diffyg mynediad at wasanaethau technoleg gwybodaeth;

  • Gweithwyr yn teimlo bod bwlch "enfawr" rhwng staff rheng flaen a rheolwyr y bwrdd iechyd;

  • Polis茂au ac adnoddau i ddiogelu cleifion yn "llai na delfrydol" o 2009 hyd at 2016, a bod llawer o waith eto i'w wneud;

  • Y broses o ddelio 芒 chwynion a phryderon wedi bod yn "fethiant parhaus" ers sefydlu'r bwrdd iechyd, a bod diffyg ymateb i adroddiadau ac ymchwiliadau allanol.

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd yr ysgrifennydd iechyd Vaughan Gething fod yr adolygiad "yn atgyfnerthu'r hyn a wyddom eisoes am sefyllfa'r bwrdd iechyd, a'r rhesymau dros ei osod dan fesurau arbennig".

"Mae hefyd yn adlewyrchu'r daith sylweddol y mae'r bwrdd iechyd yn dal i fod arni," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Vaughan Gething bod disgwyl i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr weithredu ar argymhellion yr adroddiad

"Mae'r bwrdd iechyd yn sefydlu gr诺p gwella, dan arweiniad y cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth, i fwrw ymlaen 芒'r gwaith sy'n ofynnol mewn ymateb i adolygiad llywodraethu Donna Ockenden ac ymchwiliad Hascas.

"Dywedais yn glir yn fy natganiadau blaenorol fy mod yn disgwyl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr weithredu ar yr argymhellion ac adrodd ar y cynnydd fel rhan o'r fframwaith gwella dan y mesurau arbennig, a bydd hyn yn cynnwys camau gweithredu mewn ymateb i adroddiad llywodraethu Donna Ockenden.

"Fe fyddaf i, y cadeirydd newydd pan fydd yn ymgymryd 芒'i swydd, y bwrdd a'r prif weithredwr yn canolbwyntio nawr ar symud ymlaen, gan roi pwyslais ar sicrhau bod y cymorth angenrheidiol yn ei le i adeiladu ar y gwaith hyd yma a gwneud y gwelliannau angenrheidiol ar fyrder er lles pobl gogledd Cymru a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr."

Yn 么l Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, roedd yr adroddiad yn un trwyadl sy'n tanlinellu "methiannau systematig a sefydliadol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dros amser hir".

"Byddwn yn cymryd amser i ystyried yr adroddiad llawn, ond mae eisoes yn glir fod adroddiad mor ddamniol yn codi cwestiynau am ddyfodol y bwrdd iechyd."

Diffygion, ond dim cam-drin

Dyma ail adroddiad Donna Ockenden i ward Tawel Fan. Cafodd ei hadroddiad cyntaf, hynod feirniadol, ei gyhoeddi yn 2015.

Ym mis Mai eleni, cafodd casgliadau ymchwiliad annibynnol eu cyhoeddi.

Roedd yr ymchwiliad hwnnw, gan Dr Androulla Johnstone ar ran Hascas - Health and Social Care Advisory Service - yn datgelu diffygion mawr mewn gofal iechyd meddwl yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Ond daeth i'r casgliad nad oedd yn gam-drin sefydliadol ac roedd yn feirniadol o'r modd roedd Ms Ockenden wedi cynnal ei harolwg, gan wrthod ei phrif gasgliadau.

'Syrcas'

Er hyn, roedd rhai teuluoedd yn feirniadol o gasgliadau'r ymchwiliad, gan ei gyhuddo o wyngalchu'r sefyllfa.

Cafodd adroddiad cyntaf Dr Ockenden ei gyhoeddi yn 2015, ddwy flynedd wedi i'r ward gau, ac roedd yn cynnwys honiadau gan un teulu bod un o'r wardiau fel "syrcas".

Honnodd ei hadroddiad bryd hynny bod diffyg gofal proffesiynol, tosturiol ac urddasol yn yr uned.