91热爆

Beth yw Gorsedd y Beirdd?

  • Cyhoeddwyd
Gorseedd y BeirddFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Cymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru, yr iaith Gymraeg a'i diwylliant yw Gorsedd y Beirdd (neu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.)

Fe'u gwelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol wedi eu gwisgo mewn gwyn, gwyrdd a glas yn cael eu harwain gan yr Archdderwydd. Gelwir aelodau'r Orsedd yn dderwyddon ac mae gan bob un ei enw barddol unigryw ei hun.

Ar Fryn y Briallu (Primrose Hill), Llundain, y sefydlwyd yr orsedd i gychwyn yn 1792 gan Iolo Morganwg a oedd yn awyddus i roi gwybod i'r byd bod na gysylltiadau uniongyrchol rhwng y Cymry a'r diwylliant Celtaidd.

Ar ddechrau'r 19eg ganrif y cysylltwyd Gorsedd y Beirdd yn swyddogol 芒'r Eisteddfod a hynny mewn Eisteddfod yng Ngwesty'r Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin. Mae'r cysylltiad yn parhau hyd heddiw.

Meini'r Orsedd

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Cenedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynllun o Gylch yr Orsedd

Lluniwyd y cynllun manwl yma o Gylch yr Orsedd ar droad yr ugeinfed ganrif. Mae 12 maen yn ffurfio si芒p cylch. Y garreg fawr wastad yng nghanol y cylch yw'r Maen Llog, a dyma lwyfan yr Archdderwydd yn ystod y seremon茂au urddo.

mae'n bosib gweld Cylch yr Orsedd mewn nifer o drefi a phentrefi ar hyd a lled Cymru, wedi eu gadael yno i nodi i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld 芒'r dref neu'r ardal honno.

Erbyn hyn, meini ffug sy'n cael eu cludo o Eisteddfod i Eisteddfod yn flynyddol.

Yr Archdderwydd

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr Archdderwydd newydd Myrddin ap Dafydd

Yr Archdderwydd yw Pennaeth yr Orsedd. Mae'n cael ei ethol gan yr Orsedd am gyfnod o dair blynedd. Dim ond Prifeirdd a Phrif Lenorion all ddal swydd archdderwydd. Mae'n gyfrifol am arwain seremon茂au'r Orsedd gan gynnwys seremon茂au'r Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio.

Y Wisg Wen

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod yn eu gwisgoedd gwyn

Enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod sy'n gwisgo'r wisg wen. Gallwch adnabod enillwyr y Gadair neu'r Goron gan eu bod yn gwisgo llawryf am eu penwisg.

Y Wisg Werdd

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y DJ Huw Stephens a'r actores Elisabeth Miles yn ei gwisgoedd gwyrdd

Mae'r aelodau sy'n gwisgo gwyrdd yn arbenigo ym myd y celfyddydau. Gall hynny ddigwydd er anrhydedd, trwy radd neu drwy arholiad. Mae enillwyr cadair a choron Eisteddfod yr Urdd hefyd yn gwisgo'r wisg werdd.

Y Wisg Las

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y cyn p锚l-droediwr Malcolm Allen yn ei wisg las

Mae'r wisg las ar gyfer rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth arbennig i'w bro neu i'r genedl a thrwy anrhydedd ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth neu'r Cyfryngau.

Morwyn y Fro a'r Flodeuged

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Morwyn y Fro

Tusw o flodau'r maes sy'n symbol o dir a phridd Cymru yw'r Flodeuged. Mae merch ifanc o fro'r Eisteddfod yn ei chyflwyno i'r Archdderwydd fel symbol o ddymuniad ieuenctid Cymru i gynnig blagur eu doniau i'r Eisteddfod.

Y Ddawns Flodau

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y ddawns flodau

Dyma un o ddefodau mwyaf poblogaidd y Brifwyl. Mae'r ddawns yn cyfleu casglu blodau'r maes ac yn cael ei pherfformio gan ferched ysgol lleol. Cyfunir y ddawns gyda chyflwyniad y Flodeuged wrth i ddwy o'r dawnswyr ychwanegu'u blodau nhw at y tusw.

Y Corn Gwlad

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Corn Gwlad

Mae seiniau'r ddau Gorn Gwlad yn rhan bwysig o ddefodaeth yr Orsedd ers yr 1860au. Gallwch glywed y ffanffer cyfarwydd pan mae enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod yn cael eu galw i'r llwyfan.

Mam y Fro a'r Corn Hirlas

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mam y Fro

Yn ei chlogyn coch hardd a phenwisg o l锚s aur, un o famau bro'r Eisteddfod sy'n cyflwyno'r Corn Hirlas i'r Archdderwydd fel symbol o'r gwin a estynnir i groesawu'r Orsedd.

Ceidwad Y Cledd

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Robin McBryde, Ceidwad y Cledd

Mae'r cleddyf yn cael ei ddefnyddio i agor a chau'r Orsedd ac yn ystod seremon茂au'r Eisteddfod. Ceidwad y Cledd sy'n gofalu ar 么l y Cleddyf. Gan ei fod yn gleddyf heddwch, nid yw byth yn cael ei ddadweinio'n llwyr. Sylwch hefyd mai wrth y llafn y caiff ei ddal yn hytrach na'r carn.Cychwyn yr Orsedd

Enwogion yr yr Orsedd

Dros y blynyddoedd, mae nifer o enwogion wedi eu hurddo i'r orsedd. Yn 1946, cafodd y Frenhines Elizabeth II ei hurddo i'r wisg werdd. Ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r canlynol wedi eu hurddo: y cyflwynydd radio Huw Stephens, y gantores Caryl Parry Jones, y s锚r Hollywood Ioan Griffiths a Matthew Rhys, y canwr opera byd-enwog Bryn Terfel, yr athletwraig Tanni Grey-Thompson, y cogydd a'r cyflwynydd teledu Bryn Williams a chyn-Archesgob Caergaint Rowan Williams.