91热爆

Arweinwyr busnes yn trafod effaith Brexit ar borthladdoedd

  • Cyhoeddwyd
Porthladd Caergybi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Porthladd Caergybi yn un o'r prysuraf yn y DU

Mae arweinwyr busnes a chludiant o Gymru ac Iwerddon wedi cyfarfod ddydd Gwener er mwyn trafod effaith Brexit ar borthladdoedd.

Digwyddodd y cyfarfod ym Mae Caerdydd tra bod y Prif Weinidog, Theresa May yn cadeirio cyfarfod cabinet i drafod cynlluniau masnach y DU gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.

Siambr Fasnach Prydain ac Iwerddon drefnodd ycyfarfod gyda'r gobaith o gytuno ar safbwynt o fewn y diwydiant er mwyn adrodd yn 么l i Lywodraeth i DU a'r llywodraethau datganoledig.

Dywedodd Cyfarwyddwr DU y Siambr, Nina Slevin ei bod hi'n hanfodol i'r porthladdoedd "baratoi ar gyfer pob posibilrwydd".

Ar hyn o bryd mae gwahaniaeth barn o fewn y llywodraeth yngl欧n 芒 pha mor agos dylai'r DU lynu at reolau'r UE wedi Brexit, a pha gyfaddawdau ddylai gael eu gwneud i sicrhau masnach mor esmwyth 芒 phosib.

Gobeithio am y gorau

Yn 么l y Siambr mae porthladdoedd Cymru yn delio 芒 mwy na 60m tunnell o gludiant bob blwyddyn, gan gyfrannu at 18,000 o swyddi.

Mae bwriad y Prif Weinidog i adael yr Undeb Dollau wedi codi cwestiynau yngl欧n 芒 sut i osgoi rhwystrau ar y ffin rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon, yn ogystal 芒 mewn porthladdoedd Cymreig.

Dywedodd Ms Slevin fod y Siambr yn "parhau i wthio am bartneriaeth lawn rhwng y DU a'r UE gan sicrhau masnach heb ffiniau a thollau ar gyfer nwyddau".

"Er hyn mae hi'n hanfodol fod Porthladdoedd Cymru ac Iwerddon a'r sectorau tramwy yn paratoi ar gyfer pob posibilrwydd," meddai.

Ychwanegodd: "Tra'n bod ni'n parhau i obeithio am y canlyniad gorau posib, dim ond bod yn ofalus ydym ni drwy baratoi ar gyfer pob achlysur posib."