91热爆

Dathlu 70 y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Nhredegar

  • Cyhoeddwyd
Tredegar Town Band
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dechreuodd y diwrnod gyda gorymdaith drwy'r dref

Daeth cannoedd o bobl ynghyd yn nhref enedigol Aneurin Bevan ddydd Sul i ddathlu 70 mlynedd ers iddo sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones, a'r arweinydd Llafur Jeremy Corbyn ymhlith y bobl oedd yn bresennol ym Mharc Bedwellte yn Nhredegar, Blaenau Gwent.

Cafodd Aneurin Bevan, Gweinidog Iechyd Prydain ym 1948, ei eni a'i fagu yn y dref, a dechreuodd y dathliadau gyda gorymdaith faneri o'i gyn-gartref ar Stryd Charles.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aneurin Bevan yn siarad 芒 chlaf cynta'r gwasanaeth iechyd, Sylvia Diggory, mewn ysbyty ym Manceinion yn 1948

Cafodd Aneurin Bevan ei ysrbydoli gan system Fictorianaidd lle roedd glowyr a gweithwyr dur lleol yn cyfrannu'n wythnosol i gronfa er mwyn talu am gostau meddygol.

Cafodd y gronfa ei hehangu i'r dref gyfan bron, ac roedd yn talu am driniaeth ddeintyddol, ymweliadau gan nyrs ardal a hyd yn oed triniaeth gan ffisiotherapydd.

Roedd yn gynllun mor llwyddiannus erbyn dechrau'r 1930au, fel bod dros 20,000 o bobl yn aelodau o Gymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymunodd y Prif Weinidog Carwyn Jones 芒 gwleidyddion yr ardal yn yr orymdaith

Ym 1947, dywedodd Bevan: "Y cyfan dwi'n ei wneud yw ymestyn i holl boblogaeth Prydain yr hyn y mae pobl Tredegar wedi bod yn elwa ohono ers cenhedlaeth a mwy.

"Rydym yn mynd i'ch Tredegar-eiddio chi."

Cyngor Tredegar sydd wedi trefnu Diwrnod Bevan, sydd hefyd yn gweld disgyblion lleol yn perfformio cerddoriaeth a chymryd rhan mewn cystadlaeuthau siarad cyhoeddus.