Adios, Andrew
- Cyhoeddwyd
Wel, fe ddigwyddodd hwnna'n gynt na'r disgwyl!
Ysgrifennais bwt ddoe yn nodi bod 'na bwysau cynyddol ar y gr诺p Ceidwadol yn y Cynulliad i ddiorseddu eu harweinydd Andrew RT Davies. Heddiw, digwyddodd hynny. Ymateb Andrew i bryderon Airbus ynghylch Brexit oedd union asgwrn y gynnen ond mae'r amheuon ynghylch yr arweinydd Cymreig wedi bod yn chwyrl茂o o gwmpas y blaid ers tro byd.
Does 'na fawr o Gymraeg wedi bod rhwng Andrew a'r Aelodau Seneddol Cymreig ers tro byd ac roedd buddugoliaeth Byron Davies dros Paul Davies yn yr etholiad i ddewis cadeirydd y blaid Gymreig yn arwydd o'r anniddigrwydd mwy eang.
Y broblem i wrthwynebwyr Andrew oedd mai dim ond y blaid yn y Cynulliad oedd 芒'r gallu i wthio Andrew allan ac roedd y gr诺p yn amharod i wneud hynny heb ymgeisydd amlwg yn barod i gymryd ei le.
Mae enwau Nick Ramsay, Suzy Davies, Paul Davies a Darren Millar i gyd yn cael eu crybwyll ond does 'na ddim sicrwydd pwy ohonyn nhw fyddai'n fodlon ysgwyddo r么l sy'n cael ei gweld fel un reit ddiddiolch.
Cawn gyfle i bwyso a mesur cyfraniad dyn wnaeth ddisgrifio ei hun fel "nineteen stone of prime Welsh beef" rhyw dro eto.
Fe fydd digon o amser gan yntau i gnoi cil dros bethau hefyd ond nid o ddewis y mae Andrew yn ildio'r awenau. Fe gawn weld pa mor deyrngar y bydd e i'w olynydd.