Cyhoeddi cynllun hybu'r Gymraeg mewn addysg yn Sir G芒r
- Cyhoeddwyd
Dywed Cyngor Sir Gaerfyrddin mai "sicrhau fod disgyblion yn fwy rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg erbyn diwedd ysgol gynradd a datblygu hynny mewn ysgolion uwchradd" yw nod strategaeth gafodd ei lansio ddydd Llun.
Wrth gyhoeddi 'Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg' dywed y cyngor ei fod yn dymuno i blant ddatblygu sgiliau newydd wrth ymdrin ag ieithoedd eraill - yn unol 芒 gofynion y Cwricwlwm Addysg Newydd yng Nghymru.
Fis Mawrth dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cymeradwyo cynlluniau addysg Gymraeg 15 o gynghorau lleol, gyda chynllun Caerfyrddin yn eu plith.
Roedd hi'n statudol bod awdurdodau lleol yn cyflwyno eu cynlluniau ar gyfer addysg gyfrwng Cymraeg rhwng 2017 a 2020.
Ond pan gafodd y cynlluniau eu cyflwyno ym mis Rhagfyr 2016 cafodd y cwbl eu gwrthod.
Y rheswm, meddai'r llywodraeth, oedd nad oedden nhw'n mynd yn ddigon pell tuag at ei nod i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Fe ddywedodd Comisiynydd y Gymraeg y llynedd fod yna "ddiffyg uchelgais" yn y cynlluniau gwreiddiol.
Ond wedi cyflwyno'r gwelliannau dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, bod y gwelliannau "wedi sicrhau sylfaen fwy cadarn i'r gwaith o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg, sy'n adlewyrchu'n well yr uchelgais a nodwyd yn y ddogfen Cymraeg 2050 a'r gydnabyddiaeth bod addysg yn gyfrwng pwysig i newid".
'Ymateb cadarnhaol'
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, sy'n aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Addysg a Gwasanaethau Plant: "Ry'n ni'n gyffrous bod ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn cael ei gyhoeddi.
"Mae'n gynllun uchelgeisiol a gafodd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth eleni yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus statudol.
"Mae'n gynllun sy'n ein gosod fel sir ar y ffordd i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol, yn wir mae'n rhoi cyfle i bob disgybl fod yn ddwyieithog erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 [diwedd yr ysgol gynradd].
"Ry'n am gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."
Dywedodd hefyd y bydd y cyngor yn ymrwymo i hyfforddi a datblygu staff er mwyn cwrdd 芒'r gofynion: "Mae ymateb penaethiaid ysgolion ar draws y sir i gyd wedi bod yn gadarnhaol ac mae hynny yn bwysig iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2018