Gareth Thomas i lansio bil i atal llafarganu homoffobig

Mae Gareth Thomas yn ceisio gwneud llafarganu anweddus a homoffobig mewn gemau p锚l-droed yn anghyfreithlon.

Bydd cyn-gapten rygbi Cymru yn lansio bil drafft gyda'r AS Damian Collins - cadeirydd Pwyllgor Diwylliant a Chwaraeon T欧'r Cyffredin - er mwyn diwygio'r Ddeddf Troseddau P锚l-droed 1991.

Byddai'r diwygiad yn golygu fod llafarganu neu wneud ystumiau anweddus sy'n cyfeirio at rywioldeb yn anghyfreithlon.

Mae'n fwriad gan Mr Collins i gyflwyno'r bil yn swyddogol yn y Senedd wedi'r lansiad yn Nh欧'r Cyffredin ddydd Llun.

Chwaraeodd Thomas 100 o weithiau dros Gymru ac fe gyhoeddodd ei fod yn hoyw yn Nhachwedd 2009.

Fe sgoriodd 41 o geisiau i Gymru, ac fe chwaraeodd deirgwaith mewn gemau prawf i'r Llewod cyn ymddeol o'r g锚m yn 2011.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Gareth Thomas yw un o'r s锚r chwaraeon prin sydd wedi datgan eu bod yn hoyw

Ers dod 芒'i yrfa fel chwaraewr i ben, mae wedi ymgyrchu i fynd i'r afael 芒 homoffobia o fewn y byd chwaraeon.

Dan y ddeddf bresennol mae'n drosedd i ymgymryd 芒 chanu anweddus o natur hiliol mewn gem b锚l-droed.

Mae hynny'n golygu fod canu anweddus ar sail lliw croen, hil, cenedligrwydd neu darddiad ethnig yn anghyfreithlon.

Does dim diffiniad clir o beth yn union sy'n 'anweddus', felly mae achosion yn cael eu hystyried yn unigol.