Drama newydd am fywyd y chwaraewr rygbi Gareth Thomas
- Cyhoeddwyd
Fe fydd drama am fywyd seren rygbi Cymru, Gareth Thomas yn agor ddydd Iau.
Mae'r cynhyrchiad National Theatre Wales, "Crouch, Touch, Pause, Engage" yn adrodd hanes y cyn-gapten 'Alfie', enillodd 100 o gapiau dros Gymru cyn iddo gyhoeddi ei fod yn hoyw.
Dywedodd wrth ohebydd celfyddydau a'r cyfryngau 91热爆 Cymru, Huw Thomas, ei fod yn "bortread gonest ac emosiynol" - yn ogystal 芒 bod am ei dref enedigol, Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r ddrama yn agor yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd ac yn rhedeg tan 7 Mawrth cyn mynd ar daith i Aberystwyth, Bethesda, Aberd芒r a Phen-y-bont ar Ogwr.