Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Arolwg yn datgelu honiadau pellach o ymosodiadau rhyw
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod angen ymchwilio i gwynion "cyfredol a hanesyddol", wedi i honiadau newydd o ymosodiadau rhywiol, aflonyddu rhywiol a bwlio ddod i'r amlwg.
Mae ymchwiliad gan raglen 91热爆 Wales Live wedi canfod fod tri aelod staff sy'n gweithio i ACau wedi gwneud dau honiad o ymosodiadau rhyw yn erbyn staff 91热爆 ac un yn erbyn Aelod Cynulliad.
Dywedodd chwech aelod staff eu bod wedi profi bwlio neu aflonyddu rhywiol yn y gwaith.
Mae'r 91热爆 yn dweud y byddan nhw'n trin yr honiadau "o ddifrif".
Dywedodd y gweinidog yn Llywodraeth Cymru, Julie James bod angen codi llais am achosion o ymddygiad amhriodol, a delio 芒 nhw.
Holiadur
Cafodd yr honiadau anhysbys eu gwneud mewn ymateb i holiadur a gafodd ei anfon at 247 o staff cynorthwyol Aelodau Cynulliad, fel rhan o waith ymchwil gan Wales Live ym mis Ebrill.
Roedd yr holiadur yn gofyn cwestiynau am aflonyddu rhywiol a bwlio yn y Senedd ac mewn swyddfeydd etholaethol.
Fe gafwyd 30 ymateb i'r ymchwiliad.
Dywedodd tri a ymatebodd eu bod wedi dioddef ymosodiad rhyw yn y gweithle:
- Dywedodd un fod person oedd yn gweithio i'r 91热爆 wedi cyffwrdd yn amhriodol ynddo/ynddi
- Dywedodd un arall fod aelod o staff y 91热爆 wedi ymosod yn rhywiol arno/arni
- Dywedodd un fod AC wedi ymosod yn rhywiol arno/arni
Gan fod yr holiadur yn un anhysbys, doedd dim modd gwirio'r honiadau, a doedd y dystiolaeth ddim yn cynnwys unrhyw enwau, ond mae'r ymatebion wedi eu trin 芒 pharch.
Fe wnaeth chwech aelod staff honiadau ychwanegol o ymddygiad amhriodol a ddywedodd eu bod wedi profi bwlio neu aflonyddu rhywiol yn y gwaith.
- Dywedodd un fod newyddiadurwr i'r 91热爆 wedi ymddwyn yn fygythiol tuag ato/ati.
- Yn 么l un arall, roedd yna "awyrgylch wenwynig ofnadwy" ac y byddai adrodd honiadau wedi bod yn ddibwynt gyda'r "AC yn farnwr, yn rheithgor a dienyddiwr ac os nhw yw'r bwli does dim posib gwneud unrhyw beth".
- Dywedodd un person fod rhywun wedi "gweiddi neu regi arnyn nhw" a'u bod wedi eu "bygwth neu eu brawychu".
Doedd yna ddim beirniadaeth am y modd y deliwyd 芒 chwynion.
Ymatebion positif
Roedd ymatebion eraill yn fwy positif, gan ddweud fod yr awyrgylch yn y Cynulliad yn "gyfeillgar, agored ac yn lle sy'n rhoi boddhad ac yn llawer gwell na'r ddelwedd oedd wedi ei rhoi ar y cyfryngau."
Ddydd Mawrth, dywedodd y Llywydd Elin Jones fod yna broblemau "difrifol" gydag ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad.
Daeth arolwg arall o staff ac ACau gan Gomisiwn y Gynulliad - y corff sy'n rheoli'r Cynulliad - i'r casgliad fod 37 o bobl wedi profi achosion o ymddygiad amhriodol.
Dywedodd 37 arall oedd wedi profi neu fod yn dyst i'r fath ymddygiad nad oedden nhw wedi rhoi gwybod i neb yn swyddogol.
Cafodd cyfanswm o 128 o ymatebion eu derbyn gyda 16.8% yn cymryd rhan - tua un o bob chwech.
Dywedodd cyfarwyddwr 91热爆 Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Yn amlwg, mae yna honiadau difrifol ac rydym yn mynd i edrych yn ofalus ar y wybodaeth sydd wedi ei darlledu heno.
"Mae hi'n hynod o anodd gwirio'r math yma o honiadau, maen nhw wedi eu rhannu'n gyfrinachol ac rydym yn parchu hynny.
"Dwi wedi bod yn y swydd am saith mlynedd a dwi erioed wedi clywed honiadau o'r math hwn yn erbyn unigolion o'r blaen, ond dydyn ni ddim yn hunanfodlon - os cawn ni unrhyw wybodaeth y gallwn ni ymchwilio iddo, byddwn yn gwneud hynny'n gadarn a thrylwyr."
'Urddas a Pharch'
Mewn datganiad, cyfeiriodd y Cynulliad Cenedlaethol at y polisi Urddas a Pharch gafodd ei gymeradwyo'n ddiweddar, lle bydd yna ymchwiliad yn cael ei gynnal i gwyn yn erbyn unrhyw un sy'n gweithio'n neu'n ymweld 芒'r Cynulliad.
Ychwanegwyd: "Does dim lle i unrhyw fath o ymddygiad amhriodol o fewn y Cynulliad.
"Mae tystiolaethau'r menywod sydd wedi eu cyfweld gan Wales Live a chanlyniad arolwg y 91热爆 ynghyd 芒 chanlyniadau ein harolwg ni, yn dangos yn glir bod rhaid gwneud cymaint mwy i sicrhau fod y Cynulliad Cenedlaethol yn lle diogel i bobl weithio, i'r rhai sy'n ymweld 芒'r ystad ac unrhyw un sy'n delio 芒 ni.
"I'r rhai sy'n profi ymddygiad amhriodol, ym mha bynnag ffurf, rhaid i ni sicrhau eu bod yn teimlo y gallan nhw ddod aton ni am gyngor a chefnogaeth, yn ogystal 芒 gwneud cwyn os dymunan nhw wneud hynny."
Dywedodd y 91热爆 y gall unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth bellach ddod ymlaen yn ddienw neu drwy sefydliad annibynnol Expolink.
Mae gwybodaeth a chefnogaeth i gael ar faterion yn ymwneud 芒'r erthygl hon i'w gael ar 91热爆 Action Line.