'Dim goddef' aflonyddu yn y Cynulliad medd AC
- Cyhoeddwyd
Bydd polisi parch ac urddas newydd y Cynulliad yn gwneud hi'n "glir" na fydd ymddygiad anaddas yn cael ei oddef medd AC.
Yn 么l Jane Bryant, sy'n cadeirio pwyllgor safonau'r Cynulliad mae'n rhaid i ACau ddarparu arweinyddiaeth glir a chryf yngl欧n 芒'r diwylliant yn y gwaith. Daw hyn yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol.
Dywedodd y bydd y polisi yn cael ei drafod fis nesaf a'r nod yw rhoi hyder i bobl i deimlo y gallan nhw s么n am unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw yngl欧n ag aflonyddu.
Mae'r pwyllgor yn ystyried cryfhau'r gosb fyddai yn cael ei osod ar ACau.
Dywedodd Ms Bryant: "Rydyn ni'n credu bod yn rhaid i'r Cynulliad osod esiampl a darparu arweinyddiaeth glir a chryf yngl欧n 芒'r math o ddiwylliant yn y gwaith y bydden ni yn hoffi gweld yng Nghymru.
"Rydyn ni yn ystyried ein gweithdrefnau presennol er mwyn gwneud yn si诺r eu bod yn briodol ac yn glir.
'Hyderus' i gwyno
"Mae'n rhaid i unigolion deimlo yn hyderus yngl欧n 芒 gallu codi unrhyw bryderon yn ymwneud ag ymddygiad amhriodol."
Roedd yr AC Llafur wedi gofyn wrth ei staff ei hun os oedden nhw'n gwybod sut i wneud cwyn amdani a'r awgrym oedd nad oedden nhw'n gwybod.
Mae Paul Davies, aelod Ceidwadol o'r pwyllgor yn dweud bod angen i unrhyw system newydd eistedd law yn llaw gyda gweithdrefnau'r pleidiau gwleidyddol.
Cwestiynu os oedd angen system cod ymddygiad gwahanol ar gyfer ACau a gweinidogion wnaeth yr AC Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Dywedodd Ms Bryant y byddai Comisiynydd y Cynulliad ar gyfer safonau, Syr Roderick Evans QC, yn berson annibynnol fydd yn gallu darparu cyngor a chymorth am unrhyw fater o egwyddor yn ymwneud gydag ymddygiad ACau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2017