91热爆

Dim cyhuddiadau am gynorthwyo marwolaeth dyn 93 oed

  • Cyhoeddwyd
Sandra a Scott Holmes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sandra Holmes a'i mab Scott yn dweud nad ydyn nhw'n difaru'r hyn wnaethon nhw

Mae teulu dyn 93 oed aeth i ddewis marw mewn clinig yn y Swistir wedi cael clywed na fyddan nhw'n cael eu herlyn.

Fe wnaeth Sandra Holmes, 66 o Lanrwst, a'i mab Scott dynnu John Lenton o gartref gofal a theithio i'r Swistir ym mis Hydref 2017, gan wybod eu bod yn torri'r gyfraith.

Dywedodd Ms Holmes fod ei thad wedi gofyn iddi yng ngwanwyn y llynedd i fynd gydag o i farw dramor.

Ddydd Gwener daeth datganiad gan Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) i gadarnhau na fyddai achos yn cael ei ddwyn yn eu herbyn.

Dywedodd y datganiad: "Fe wnaethon ni dderbyn ffeil o dystiolaeth gan Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas 芒 marwolaeth dyn 93 oed yn y Swistir yn 2017.

"Fe wnaethon ni ystyried amgylchiadau'r achos yn unol 芒'r cod i erlynwyr y Goron wrth ystyried hefyd y canllawiau CPS perthnasol.

"Daethom i'r casgliad nad yw erlyniad er budd y cyhoedd, ac felly ni fydd unrhyw gyhuddiadau'n cael eu cyflwyno."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

&#虫27;搁丑测诲诲丑芒诲&#虫27;

Wrth ymateb i'r newyddion na fydd hi, ei mab na'i phartner yn wynebu cyhuddiadau troseddol, dywedodd Sandra Holmes: "Mae'r tri ohonom wrth ein bodd.

"Fel teulu mae'n rhyddh芒d bod y penderfyniad wedi'i wneud. Dyma'r oeddem ni'n ei ddisgwyl, ond mae'n braf medru tynnu llinell dan y cyfan."

Mae Ms Holmes, sydd wedi galw am newid y gyfraith i ganiat谩u rhoi cymorth mewn achosion o hunanladdiad fel un ei thad, yn dweud y bydd yn "dyfalbarhau", gan ychwanegu:

"Yr un peth da sydd wedi dod o'r cyhoeddusrwydd diweddar amdanom ni yw bod teuluoedd cyffredin nawr yn siarad am y peth.

"Dwn i ddim faint o bobl - nifer yn ddieithriaid - sydd wedi dweud wrthym fod eu rhieni nhw 芒 dyheadau tebyg i rai fy nhad. Mae'n fater y dylai pobl fod yn gallu siarad amdano."