Galw am fwy o ardaloedd 20mya yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru ar ei h么l hi o gymharu 芒 gweddill y DU o safbwynt lleihau cyfyngiadau cyflymder o 30mya i 20mya mewn ardaloedd trefol, medd un gr诺p ymgyrchu.
Caerdydd yw'r unig gyngor i gyflwyno uchafswm o 20mya yn y rhan fwyaf o strydoedd preswyl o gymharu 芒 mwy na 50 o gynghorau yn Lloegr.
Fe ddywed y gr诺p 20's Plenty for Us eu bod am weld Llywodraeth Cymru'n defnyddio pwerau newydd i ostwng yr uchafswm.
Ond mae un gr诺p moduro yn dweud na fyddai hynny'n arwain at strydoedd mwy diogel.
Cynghorau sir sydd 芒'r cyfrifoldeb o osod cyfyngiadau cyflymder ac mae'r fwyaf wedi cyflwyno ardaloedd 20mya y tu allan i ysgolion.
'Cefnogaeth i'r syniad'
Dywedodd Rod King, sylfaenydd 20's Plenty for Us, fod Cymru'n dechrau mabwysiadu'r syniad o gael cyfyngiad o 20mya mewn ardaloedd preswyl.
"Dydw i ddim yn si诺r pam fod Cymru ar ei h么l hi ar y mater yma," meddai.
"Ond mae cefnogaeth i'r syniad ac mae cyfle nawr gan fod gan Llywodraeth Cymru'r grym i weithredu hyn yn genedlaethol."
Fe wnaeth adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2016 ddod i'r casgliad y byddai "budd sylweddol" i'r cyhoedd o ostwng yr uchafswm cyflymder.
Dywed yr adroddaid y byddai allyriadau trafnidiaeth yn gostwng o 12% mewn ardaloedd preswyl, ac y byddai'n arwain at tua 2,000 yn llai o ddioddefwyr o ganlyniad i wrthdrawiadau bob blwyddyn.
Ond mae Hugh Bladon o fudiad Alliance of British Drivers, yn credu bod cyflwyno mwy o ardaloedd 20mya yn "syniad abswrd".
"Rwy'n byw ger Bryste lle mae arian yn cael ei wario ar arwyddion 20mya a does neb yn cymryd sylw ohonyn nhw," meddai.
"Ac mewn gwirionedd os ydych chi mewn ardal 20mya mae pobl yn credu fod honno'n ardal ddiogel a ddim yn talu cymaint o sylw i'r hyn sy'n digwydd o'u cwmpas... weithiau maen nhw'n crwydro i ganol y ffordd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y gwaith ymchwil i'r effaith o leihau cyfyngiadau cyflymder ar lefel genedlaethol wedi profi'n aneglur.
"Rydym yn parhau gyda'r gwaith ymchwil yn y maes yma ac yn gweithio'n agos gyda'r Adran Drafnidiaeth sydd wedi comisiynu gwaith ymchwil tair blynedd er mwyn ystyried y budd o ostwng cyfyngiadau cyflymder mewn parthau 30mya, " meddai'r llefarydd.
"Mae disgwyl i'r gwaith ymchwil yna gael ei gwblhau yn ddiweddarach yn y flwyddyn."