Yr enw Cymraeg ar gartref prif weinidog Canada
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder bod enwau Cymraeg ar lefydd yn diflannu wrth iddyn nhw gael eu newid i'r Saesneg... ond nid dim ond yng Nghymru mae'n digwydd.
Mae'r awdur Mike Parker wedi at enghraifft adnabyddus arall o ddiflaniad treftadaeth y Gymraeg - yng Nghanada.
Mae'n ymwneud 芒 chartref swyddogol neb llai na phrif weinidog y wlad.
24 Sussex Drive yn Ottawa, Ontario, yw cartref swyddogol prif weinidog Canada ers 1950 ond enw gwreiddiol y t欧 yw Gorffwysfa.
Adeiladwyd Gorffwysfa yn 1868 gan Joseph Merrill Currier a wnaeth ei ffortiwn yn y diwydiant coed a dod yn flaengar mewn gwleidyddiaeth.
Cododd y t欧 fel anrheg priodas i'w wraig Hannah Wright a rhoi'r enw Cymraeg arno.
Wedi marwolaeth Hannah, pasiodd y t欧 i ddwylo pobl fusnes a gwleidyddion yn ei theulu.
Cafodd ei brynu gan y llywodraeth yn 1950 a'i foderneiddio fel cartref swyddogol arweinydd y wlad.
Y teulu Trudeau
Cyn i chi ruthro yno i gael cip ar y prif weinidog presennol, Justin Trudeau, nid yw wedi byw yn yr hen Gorffwysfa ers dod yn arweinydd ei wlad am fod angen atgyweirio'r t欧.
Ond mae'n adnabod y lle'n dda am iddo gael ei fagu yno pan oedd ei dad, Pierre Trudeau, yn brif weinidog hyd at 1979.
Mae llu o bobl adnabyddus wedi ymweld 芒'r t欧 gan gynnwys John a Jacqueline Kennedy, Syr Winston Churchill a'r Frenhines Elizabeth II.
Ond i ddod n么l at yr enw - pam Gorffwysfa?
Roedd Joseph Currier yn dod o Vermont yn wreiddiol, talaith yn yr Unol Daleithiau, oedd wedi denu llawer o Gymry i weithio yn ei chwareli llechi. Tybed a oedd ganddo waed Cymreig?
Beth bynnag y rheswm, mae'r enw gwreiddiol 'dieithr' wedi diflannu'n dawel a'r t欧'n cael ei adnabod wrth ei gyfeiriad yn unig erbyn hyn - 24 Sussex.