Teilwra dyfodol newydd wedi diwedd hen fusnes teuluol
- Cyhoeddwyd
Mae siop deiliwr yn Nyffryn Conwy sydd wedi cael ei rhedeg yn ddi-dor gan yr un teulu ers bron i ganrif a hanner yn cau wedi i'r perchennog benderfynu ymddeol.
Fe sefydlwyd siop H Ogwen Evans ym mhentref Tal-y-Cafn yn 1870 gan hen hen daid Gwyneth Roberts.
Symudodd y busnes i'w gartref presennol - hen gwt cychod ger gorsaf reilffordd Pont Tal-y-Cafn - yn 1953, lai na hanner milltir o'r fan lle cychwynnodd y fenter.
Ond a hithau bellach yn 73 oed a neb i gymryd yr awennau o fewn y teulu, mae'r perchennog presennol wedi gwneud penderfyniad "anodd iawn" i ymddeol a rhoi'r adeilad ar y farchnad.
Dywedodd Mrs Roberts: "Dechreuodd hyn yn 1870 gan fy hen hen daid Ifan Evans, wedyn fy hen daid Ifan Ogwen Evans, a wedyn dad Herbert Ogwen Evans a wedyn y fi Gwyneth Ogwen Roberts r诺an."
A'r ardal mor wledig, roedd y teilwriaid yn aml yn ymweld 芒 ffermwyr yn eu cartrefi i'w mesur cyn gwneud dillad ar eu cyfer, a dychwelyd i sicrhau eu bod yn ffitio.
Ar un adeg roedd y busnes yn cael ei gynnal o hen garaf谩n sipsi, ac o faes parcio gwesty Tal-y-Cafn am gyfnod.
Ers i Herbert Evans osod hen gwt cychod ail law ar y safle presennol yn 1953, mae'r siop wedi dod yn olygfa gyfarwydd i bobl sy'n teithio drwy Ddyffryn Conwy.
Fe weithiodd yntau yno gyda'i ferch nes ei farwolaeth yn y 1980au hwyr, ac mae hithau'n rhedeg y busnes ar ei phen ei hun ers hynny.
Trwy'i gwaith yn y siop y gwnaeth Gwyneth Roberts gyfarfod ei g诺r, Llywelyn.
"Ddoth o lawr efo'i dad. Roedd y ddau isio siwt. Nes inna ddechre siarad efo Llywelyn a felly ddaethom ni i gyfarfod a hynny tua 55 o flynyddoedd yn 么l r诺an.
"Mae o'n dal i ddweud wrtha'i mai honna 'di'r siwt ddryta mae o 'di gael!"
Dywedodd ei bod wedi gweld llawer o newid dros y blynyddoedd ers dechrau hyfforddi gyda'i thad yn 12 oed, a bod defnyddiau heddiw'n llawer ysgafnach.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Mrs Roberts wedi mesur ei chwsmeriaid ac archebu siwtiau ac ati ar eu cyfer yn hytrach na'u gwneud ei hun. Mae hefyd yn altro dillad.
Mae ei chwsmeriaid, meddai, yn dod o bell ac agos. Mae rhai'n teithio o Fanceinion, Lerpwl ac mae un cwsmer cyson yn byw yn Andorra.
Mae hi wedi penderfynu rhoi seibiant i'r nodwydd er mwyn treulio mwy o amser hefo'i theulu, ond mae'n dweud fod y penderfyniad wedi bod yn un "anodd iawn" ac ambell i ddeigryn yn cael ei golli.
Mae'r hen gwt pren bellach wedi cael ei werthu ac mae'r siop yn cau ddiwedd y mis. Does dim manylion eto sut fydd y perchennog newydd yn defnyddio'r adeilad.