Merched Cymru ar frig gr诺p A ar 么l trechu Rwsia 3-0
- Cyhoeddwyd
Mae t卯m merched Cymru gam yn nes at gyrraedd Cwpan y Byd 2019 yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 yn erbyn Rwsia yng Nghasnewydd.
Aeth Cymru ar y blaen diolch i g么l Kayleigh Green yn fuan yn yr ail hanner.
Fe ychwanegodd Green yr ail i Gymru yn dilyn chwarae taclus, cyn i Natasha Harding goroni'r perfformiad gyda'r drydedd.
Mae'r canlyniad yma yn golygu fod Cymru ar frig gr诺p A gydag un g锚m yn weddill, ac yn sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle.
Hanner cyntaf rhwystredig
Roedd rhaid i'r ddau ddim ennill y g锚m er mwyn cynnal unrhyw obaith o gyrraedd Cwpan y Byd, ond rhwystredig iawn oedd yr hanner cyntaf.
Llwyddodd Cymru i gryfhau wrth i'r g锚m fynd yn ei blaen, ac erbyn diwedd yr hanner cyntaf roedden nhw'n rheoli'r chwarae o flaen torf o 1,200 ym Mharc Spytty.
Bron i'r pwysau arwain at g么l cyn hanner amser pan gafodd ergyd Helen Ward ei chlirio gan amddiffynnwr canol Rwsia.
Fe apeliodd t卯m Jayne Ludlow am ddwy gic o'r smotyn ar 么l llawio posib ond anwybyddu'r cwynion wnaeth y dyfarnwr o'r Ffindir.
Green yn serennu
Dechreuodd Cymru'r ail hanner ar d芒n wrth i Kayleigh Green ymateb yn sydyn i groesiad Rachel Rowe o'r asgell chwith, er mwyn taro'r b锚l yn gadarn i gefn y rhwyd o ongl dyn.
Dal i bwyso wnaeth Cymru wrth i'r hyder lifo drwy'r t卯m, ac ar ddiwedd symudiad campus gan ymosodwyr Cymru, llwyddodd Green i godi'r b锚l dros y golwr gydag ergyd gywir.
Ar 么l yr ail g么l roedd amddiffyn Rwsia i'w weld yn colli ei si芒p ac roedd Cymru yn creu un cyfle ar 么l y llall.
Rhedodd Natasha Harding yn glir o'r amddiffyn cyn taro'r b锚l yn isel i gornel y rhwyd ar yr 么l 68 munud i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Dyma'r seithfed g锚m yn olynol i Gymru beidio ag ildio g么l.
Roedd dathliadau yn y dorf ac ar fainc Cymru wedi'r chwiban olaf wrth i ferched Jayne Ludlow lwyddo i sicrhau lle Cymru yn y gemau ail-gyfle.
Golygai'r fuddugoliaeth yn erbyn Rwsia fod Cymru ar frig gr诺p A, wedi chwarae un g锚m yn fwy na Lloegr yn yr ail safle.
Bydd Cymru yn wynebu t卯m Phil Neville ar 31 Awst i benderfynu pwy fydd yn gorffen ar frig y tabl ac yn mynd i Gwpan y Byd yn Ffrainc 2019.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2018