91热爆

Myfyrwyr yn pleidleisio am swyddog Cymraeg llawn-amser

  • Cyhoeddwyd
undebFfynhonnell y llun, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi pleidleisio o blaid cyflogi swyddog materion Cymraeg llawn-amser i'r Undeb Myfyrwyr.

Gofynnodd y cynnig: "A ddylai swydd y Swyddog Materion Cymraeg Rhan-amser gael ei amnewid 芒 Swyddog Materion Cymraeg Llawn-amser?"

Dros gyfnod o dri diwrnod, pleidleisiodd 681 o fyfyrwyr ar y refferendwm.

Daeth yr ymgyrch 'o blaid' i'r brig gyda mwyafrif o dros 350 pleidlais.

Canlyniadau'r refferendwm yn llawn:

  • 519 o blaid

  • 151 yn erbyn

  • 11 wedi ymwrthod

Er mwyn i'r bleidlais fod yn ddilys roedd rhaid i 3% o'r aelodau fwrw'u pleidlais, sef 598.

Mae'n ddiddorol nodi felly pe byddai'r bobl oedd yn erbyn y cynnig wedi peidio 芒 bwrw'u pleidlais, fe fyddai'r cynnig wedi methu.

Mae'r Swyddog Materion Cymraeg ar hyn o bryd yn r么l rhan-amser a gwirfoddol ond bydd y swydd newydd yn llawn-amser ac yn gyflogedig.

Penodi yn 2019

Dywedodd Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe bod y canlyniad wedi "sicrhau bod llais cryfach o fewn yr Undeb gan y miloedd o siaradwyr Cymraeg sydd ymhlith myfyrwyr Prifysgol Abertawe".

"Bydd y swyddog pan yn weithredol nid yn unig yn codi llais ar ran Cymry Cymraeg ond yn fodd o sicrhau bod gwell mynediad at a dealltwriaeth o'r iaith a'i diwylliant gan holl fyfyrwyr y sefydliad," ychwanegodd.

Bydd canlyniad y refferendwm nawr yn cael ei gyfeirio at Fwrdd Ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr am gadarnhad ac yn cael ei brosesu drwy eu pwyllgorau.

Mae disgwyl i'r swyddog Cymraeg llawn amser cael ei penodi yn sgil etholiadau fydd yn digwydd yng Ngwanwyn 2019.