Mirain Alaw Jones yn ennill y Fedal Ddrama
- Cyhoeddwyd
Mirain Alaw Jones o gylch Canol Caerdydd yw enillydd Y Fedal Ddrama, prif seremoni'r dydd yn Eisteddfod Brycheiniog a Maesyfed yn Llanelwedd.
Bydd yn cael cyfle i dreulio amser yng nghwmni'r Theatr Genedlaethol a derbyn hyfforddiant gyda'r 91热爆.
Bydd cyfle hefyd i ddatblygu ei syniadau gyda Choleg Prifysgol y Drindod Dewi Sant.
Roedd yn fuddugol am gyfansoddi drama lwyfan ac un a rhwng 40-60 munud i'w pherfformio.
Chwech a ymgeisiodd am y brif wobr ddrama eleni.
Dywedodd Luned Aaron ar ran y beirniaid - hi ac Aled Jones Williams - fod gwaith 'T诺it-ah诺' yn cynnwys "deialog byrlymus a sgwrsio penigamp" sy'n cyffwrdd 芒 byd newyddion ffug.
Roedd yn "ddrama sy'n llawn o haenau" gan fentro i fyd sinistr ar adegau wrth drafod byd y cyfryngau cymdeithasol.
Iaith, rygbi a chanu!
Daw Mirain yn wreiddiol o Gapel Seion yng Nghwm Gwendraeth, gan fynychu ysgolion Pontyberem a Maes yr Yrfa.
Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd gan ganolbwyntio ar ysgrifennu creadigol a sgriptio
Yn wyneb cyfarwydd i nifer, bu'n actio cymeriad Lois ar Pobol y Cwm am wyth mlynedd,
Mae hi nawr yn gweithio gyda Menter Iaith Merthyr Tudful, yn chwarae rygbi i d卯m rygbi Cymry Caerdydd ac mae'n aelod o g么r merched y brifddinas.
Datblygodd ei diddordeb mewn ysgrifennu yn yr ysgol tra'n astudio Drama a Chymraeg gyda Carys Edwards a Dr Non Evans. Astudiodd radd israddedig a meistr yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd gan ganolbwyntio ar ysgrifennu creadigol a sgriptio dan fentoriaeth Dr Ll欧r Gwyn Lewis a Ceri Elen.
Mae wedi bod yn rhan o gynlluniau ar gyfer dramodwyr ifanc gan gynnwys 'Sgript i Lwyfan' ac yn fwy diweddar gyda Chwmni Theatr 'Mewn Cymeriad'.