91热爆

Holi eisteddfodwyr am enwau lleoedd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Com y Gym

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn am gymorth eisteddfodwyr ar faes y Sioe yn Llanelwedd yn y gwaith o baratoi rhestr newydd o enwau lleoedd yng Nghymru.

Bydd eisteddfodwyr yn cael eu holi i brofi'r rhestr newydd gan sicrhau fod enw eu pentref neu dref wedi ei gynnwys ynddi.

Bydd y rhestr derfynol o enwau safonol yn cael ei lansio yn ffurfiol ddiwedd y mis.

Dywedodd llefarydd mai'r nod yw ateb cwestiynau dyrys am enwau lleoedd yng Nghymru fel: 'A oes yna ddwy 'n' yn Llangrannog? A ddylem gynnwys cysylltnod yng Nglan-llyn ac a oes yna enw Saesneg ar Lanelwedd?'

Mae'r rhestr yn dilyn blynyddoedd o waith ymchwil ac ymgynghori gan Gomisiynydd y Gymraeg, sydd yn gyfrifol am argymell ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r rhestr yn dilyn blynyddoedd o ymchwil gan Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws

Yn 么l Dr Eleri James, un o uwch swyddogion Comisiynydd y Gymraeg, sydd wedi bod yn arwain y prosiect, mae'r gwaith wedi bod yn hynod o drwyadl.

"Drwy gydol y broses rydym wedi ymgynghori yn gyson 芒'n panel o arbenigwyr yn ogystal 芒 defnyddwyr lleol fel y cynghorau sir," meddai.

'Gwarchod cyfoeth'

"Ond, yn Eisteddfod yr Urdd eleni, byddem yn hynod o falch o gael cymorth gan y cystadleuwyr a'u cefnogwyr, sydd yn teithio o bob cwr o Gymru, i roi cynnig ar yr adnodd newydd a gwirio a yw enw eu tref neu eu pentref nhw arni.

"Mae gwybodaeth leol am enwau yn anhepgor."

Cadeirydd y panel o arbenigwyr yw'r Athro David Thorne, sydd hefyd yn gadeirydd ar Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.

"Ein gobaith yw y bydd y rhestr hon, sydd 芒 dros 3,000 o safleoedd arni, yn gam at warchod y cyfoeth o enwau lleoedd sydd gennym yng Nghymru."

Bydd Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru yn cael ei lansio yn swyddogol ar 20 Mehefin ym Mae Caerdydd.

Bydd y rhestr ar gael wedi hynny o .