Llais y Llywydd: Yr actores Nia Roberts
- Cyhoeddwyd
Cafodd Nia Roberts ei geni a'i magu yn Aberhonddu, a dyna ble ddechreuodd y freuddwyd o fod yn actores.
Cymerodd ran mewn sawl sioe yn theatr y dref trwy gydol ei phlentyndod. Yn 11 mlwydd oed fe aeth i Lundain i ffilmio ei drama deledu gyntaf i'r 91热爆.
Yn ei harddegau ymunodd 芒 Theatr Ieuenctid Cymru cyn mynd ymlaen i astudio Drama ym Mhrifysgol Birmingham.
Yn fuan ar 么l graddio enillodd y rhan fel Gaenor yn y ffilm Solomon a Gaenor a chafodd ei henwebu am Oscar.
Y flwyddyn ganlynol enillodd BAFTA am ei phortread o ferch yn dioddef o anorecsia yn y ffilm Lois.
Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf mae Ms Roberts wedi gweithio ar drawstoriad eang o brosiectau o fewn y byd ffilm a theledu yn ogystal 芒'r theatr, yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Un o'i huchafbwyntiau personol yn y theatr oedd cael ei chyfarwyddo gan Daniel Evans i bortreadu Esther yn nrama Saunders Lewis.
Cafodd y cyfle hefyd i wireddu breuddwyd oes i ddatblygu a bod yn rhan o ffilm draw yn Y Wladfa, sef Patagonia, gyda'i g诺r, y cyfarwyddwr Marc Evans.
Yn ddiweddar mae Ms Roberts wedi ymddangos mewn sawl cyfres deledu a ffilmiau, gan gynnwys Craith, Bang, Last Summer, Rillington Place a The White Princess.
Fel plentyn bu'n yn cystadlu'n gyson yn Eisteddfodau'r Urdd a hefyd mewn nifer o eisteddfodau lleol ym Mhontsenni, Trecastell a Crai.
Mae dod adre i'r ardal yma i fod yn Llywydd y Dydd yn golygu cryn dipyn iddi gan mai ar lwyfan yr Eisteddfod wnaeth hi fagu'r hyder a'r awydd i berfformio.
Beth yw dy atgof cyntaf/hoff atgof o'r Urdd?
'O'n i'n bedair yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol ym Mrycheiniog cyn dechre' cystadlu yn yr Urdd. Ond mewn ffordd, gyda'r Urdd, nid y cystadlu dwi'n cofio mwya' ond y teimlad o fod yn rhan o rywbeth cyffrous.
Bws ysgol yn teithio lan i'r gogledd gyda fy holl ffrindie, gwario arian a chasglu llofnodion ar y maes, clwb adran ar 么l ysgol ac wrth gwrs... Gwersyll Llangrannog! Y 'black nun', cerdded lawr i'r traeth, y swogs, ennill y gystadleuaeth gwisg ffansi.
Ond yn bennaf, y teimlad cyntaf cyffrous o fod i ffwrdd o adre ar ben fy hun a chwrdd 芒 chymaint o blant eraill oedd yn siarad Cymraeg.
Disgrifia'r profiad o gystadlu yn yr Eisteddfod i berson o'r gofod
S'dim angen lot o ddychymyg i ateb y cwestiwn yma! Dwi 'di bod mewn sawl sefyllfa yn disgrifio'r Eisteddfod i bobol sy' dim ond yn byw dros y ffin ac yn cael ymateb llawn syfrdan.
Lot o blant yn ymgynnull i gystadlu drwy adrodd barddoniaeth, neu ganu c芒n gyda chyfeiliant hollol wahanol. Plant o bob oedran yn chwarae'r delyn, y tromb么n, y ffidil, dawnsio gwerin, yn ysgrifennu barddoniaeth a darlunio.
Yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, ond yn bennaf yn cymryd rhan.
Cael dathlu pan mae eich ysgol chi yn ennill gwobrau a chael achwyn pan gawson ni gam, gan deimlo'n nerfus, cyffrous a chynhyrfus i gyd ar yr un pryd.
Yw'r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn dy fywyd proffesiynol?
Nid oes unrhyw amheuaeth fod cystadlu yn yr Urdd wedi fy mharatoi ar gyfer y byd actio. Yn fwy na dim, yr hyder i sefyll ar ben llwyfan ar fy mhen fy hun neu mewn gr诺p.
Y teimlad o geisio trosglwyddo i'r gynulleidfa yr hyn yr oeddwn wedi gweithio mor galed i'w bortreadu.
Y teimlad o ddysgu sut i ymddiried mewn cyd-berfformwyr ar y llwyfan. Yr ias o fod ar lwyfan. Ddysges i hyn i gyd yn ifanc iawn oherwydd cystadlu yn yr Urdd.
Pa gystadleuaeth newydd hoffet ti weld yn rhan o'r Eisteddfod?
Bydde fe'n ddifyr cael cystadleuaeth actio yn debyg i un Richard Burton yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Disgrifia ardal Brycheiniog a Maesyfed i bobl sydd erioed wedi bod yna o'r blaen
Mae mynyddoedd gorau Cymru yn ardal Brycheiniog a Maesyfed, heb os...! Nid oeddwn yn gwerthfawrogi pa mor brydferth a mawreddog oedd Bannau Brycheiniog pan dyfais i fyny yn Aberhonddu.
Dwi'n gallu gweld nhw'n glir o d欧 fy magwraeth, a dwi'n llawn edmygedd yn awr yn teithio trwyddyn nhw i fynd n么l i Gaerdydd, neu pan fyddaf yn dringo i gopa Pen-y-Fan.
Nid oes gymaint o Gymraeg yn cael ei siarad yn yr ardal yma, ond dwi'n browd iawn o bobl fel Dad a Mam sydd wedi neud gymaint dros y blynyddoedd trwy ymladd am yr hawl i gael addysg Gymraeg.
Beth, yn dy farn di, yw'r peth gorau am yr Urdd?
Dwi'n mynd i ailadrodd fy hun braidd fan hyn, ond i fi yr hyn sy'n sbesial am yr Urdd yw'r teimlad o fod yn rhan o rywbeth, y cyfeillgarwch.
Wnes i dyfu i fyny yn Aberhonddu felly wnes i fyth gymryd y ffaith 'mod i'n medru siarad Cymraeg yn ganiataol. Fi oedd yr 'alien' weithiau, felly roedd ymgynnull gyda phlant o Gymru gyfan yn bwysig iawn.