Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi KeolisAmey fel cwmni trenau newydd Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mai cwmni KeolisAmey sydd wedi cael y cytundeb i redeg gwasanaethau trenau Cymru.
Wedi i un cwmni dynnu n么l o'r broses dendro ers iddo gychwyn, dau gwmni oedd yn y ras am y cytundeb i olynu Trenau Arriva Cymru, sydd wedi bod yn gyfrifol am wasanaethau Cymru a'r Gororau ers 15 mlynedd.
Bydd y cytundeb newydd yn dod i rym yn Hydref 2018, ac fe fydd hefyd yn golygu bod y cwmni'n gyfrifol am Fetro De Cymru.
Y cwmni arall yn y ras oedd MTR o Hong Kong.
Mae KeolisAmey yn gyfuniad o ddau gwmni. Mae Keolis yn gwmni o Ffrainc, a dyma'r cwmni preifat mwyaf i redeg gwasanaethau trenau cyhoeddus yno, ond mae tri chwarter y cwmni yn berchen i SNCF - rheilffordd y wladwriaeth yn Ffrainc.
Er mai cwmni Prydeinig oedd Amey yn wreiddiol, fe gafon nhw'u prynu gan gwmni Ferrovial o Sbaen 15 mlynedd yn 么l. Maen nhw'n un o brif gyfranddalwyr maes awyr Heathrow.
Terfyn ar elw
Dywedodd prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price mai'r bwriad oedd cysylltu pob rhan o Gymru, ac y byddai mwy o bwyslais ar deithio hamdden ac ar yr henoed.
Bydd hefyd terfyn ar faint o elw sy'n cael ei ganiat谩u, gydag unrhyw arian ychwanegol yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaeth.
Mae disgwyl i'r cytundeb newydd olygu bod y cwmni buddugol yn cymryd rheolaeth o 124 milltir (200km) o drac oddi wrth Network Rail, gan olygu'r gallu i uwchraddio'r llwybrau.
Mae bwriad hefyd i sicrhau fod gwerth 拢5bn o fuddsoddiadau dros 15 mlynedd yn dod o fewn cyrraedd cwmn茂au lleol bach a chanolig.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Alistair Gordon, prif weithredwr Keolis UK: "Er na fydd y newidiadau yn digwydd dros nos, fydd dim modd adnabod y rheilffordd ymhen pum mlynedd diolch i weledigaeth Llywodraeth Cymru."
Ychwanegodd prif weithredwr Amey, Andy Milner: "Wrth adeiladu ar ein partneriaeth lwyddiannus gyda Keolis, sydd eisoes wedi ein gweld yn rhedeg dau wasanaeth rhagorol - Metrolink Manceinion a DLR Llundain (rheilffydd y dociau) - mae'n anrhydedd cael rhedeg y gwasanaeth newydd i Gymru a'r Gororau."
Dadansoddiad Golygydd Materion Cymreig 91热爆 Cymru, Vaughan Roderick:
Heb os mae cyhoeddi enw'r cwmni fydd yn rhedeg trenau Cymru am y 15 mlynedd nesaf yn foment o'r pwys gwleidyddol mwyaf.
Trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus Cymru oedd un o addewidion allweddol Llafur yn yr etholiad Cynulliad diwethaf, ac fe fydd eu gallu i wneud hynny yn un o feini prawf allweddol yr etholiad nesaf.
Oni welir gwelliannau pendant ar lawr gwlad yn ystod y tair blynedd nesaf fe fydd y gwrthbleidiau yn colbio'r llywodraeth, a chyda'r rhan fwyaf o'r pwerau perthnasol wedi eu trosglwyddo i Gaerdydd, fe fydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn y cyfrifoldeb am yr hyn sydd wedi digwydd - neu sydd ddim wedi digwydd.
Pan fydd manylion y cytundeb yn cael eu cyhoeddi ymhen pythefnos gallwn ddisgwyl y bydd yn cynnwys rhai elfennau y gellir eu gwireddu mewn byr o dro fel arwydd o'r hyn sydd i ddod. A fydd y rheiny'n ddigon i argyhoeddi'r cyhoedd? Pwy a 诺yr?
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru ei fod yn gyfle "unwaith mewn cenhedlaeth" i ddylunio gwasanaeth fydd yn ateb y galw cynyddol o ran nifer y teithwyr a'u disgwyliadau.
"Dyma'r tro cyntaf ers datganoli i Gymru gael y cyfle i ddylunio rhywbeth i'w hun," meddai Mr Price.
"Fe wnaethon ni etifeddu beth oedd gennym ni gynt. A bydd llawer o bobl wedi profi hyn ddydd i ddydd - cyrraedd gorsaf drenau dim ond i ganfod nad ydyn nhw'n gallu dal tr锚n."
Does dim disgwyl manylion llawn am y fasnachfraint newydd tan fis nesaf, a bydd y cwmni aflwyddiannus yn cael 10 diwrnod i apelio'r penderfyniad.
Mae Trenau Arriva Cymru wedi dweud y bydd eu holl weithwyr yn gallu trosglwyddo draw i'r cwmni newydd pan fydd y fasnachfraint yn newid dwylo ym mis Hydref.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi ac isadeiledd, Russell George, ei fod yn "foment bwysig i Gymru".
Mynnodd fod teithwyr yn disgwyl "gwelliannau" i'r gwasanaeth yn syth, a'u bod yn betrusgar am allu Llywodraeth Cymru yn dilyn adroddiad beirniadol diweddar am y ffordd y gwnaethon nhw ddelio 芒 Chylffordd Cymru.
"Mae gan y Llywodraeth Lafur record s芒l iawn o ran cyflawni prosiectau mawr yng Nghymru, ac rydyn ni ond yn gobeithio er lles y miliynau o deithwyr ar draws y wlad eu bod wedi dysgu eu gwersi," meddai Mr George.
'Diffygiol'
Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth a'r economi, Adam Price fod y broses ymgeisio wedi bod yn "ddiffygiol o'r cychwyn", ac y dylai'r rheilffyrdd ddod i berchnogaeth gyhoeddus.
"Mae hyn yn cynnwys natur y cyhoeddiad - does dim esgus dros gael datganiad un dudalen ychydig cyn y gwyliau ar gyfer prosiect 拢5bn," meddai.
"Dyw'r llywodraeth ddim hyd yn oed wedi cyhoeddi eu Gwahoddiad i Dendr, ac mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny heddiw er mwyn i ni wybod yn union beth wnaethon nhw ofyn amdano."
Dywedodd undeb yr RMT, sydd yn cynrychioli gweithwyr trafnidiaeth, fod Llywodraeth Cymru wedi'u cyfyngu yn eu gallu i ddod 芒'r rheilffyrdd ddod i berchnogaeth gyhoeddus gan "siaced gaeth ddeddfwriaethol" Llywodraeth y DU.