Disgwyl cyhoeddiad yn fuan am fasnachfraint trenau Cymru
- Cyhoeddwyd
Fydd y cwmni nesaf i gael masnachfraint trenau Cymru ddim yn cael eu talu os nad ydyn nhw'n cadw at addewidion fel prydlondeb, hylendid a safon y gwasanaeth.
Dywedodd pennaeth Trafnidiaeth Cymru fod y cytundeb yn cynnwys cymalau ynghylch y gwasanaeth oedd ddim yno gynt.
Mae disgwyl i'r cwmni llwyddiannus, fydd hefyd yn gyfrifol am Fetro De Cymru, gael eu cyhoeddi yn y 24 awr nesaf.
Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru yn trafod y manylion terfynol ddydd Mawrth.
Dau yn y ras
Bydd y fasnachfraint newydd yn dod i rym ym mis Hydref 2018, gyda'r cwmni newydd yn cymryd lle Trenau Arriva Cymru sydd wedi bod yn rhedeg y gwasanaeth ers 15 mlynedd.
Dywedodd prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price mai'r bwriad oedd cysylltu pob rhan o Gymru, ac y byddai mwy o bwyslais ar deithio hamdden ac ar yr henoed.
Bydd hefyd terfyn ar faint o elw sy'n cael ei ganiat谩u, gydag unrhyw arian ychwanegol yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaeth.
Dau gwmni sydd yn cystadlu am fasnachfraint Cymru a'r Gororau:
KeolisAmey - cwmni sydd eisoes yn rhedeg rheilffordd Docklands yn Llundain a gwasanaethau ym Manceinion a Nottingham, yn ogystal 芒 nifer o ddinasoedd eraill ar draws y byd. Y prif gyfranddaliwr yw'r cwmni sy'n rhedeg trenau Ffrainc, SNCF.
MTR - nhw sydd yn rhedeg metro Hong Kong - un o'r prysuraf yn y byd - yn ogystal 芒 rhai o wasanaethau tr锚n Llundain.
Mae disgwyl i'r cytundeb newydd olygu bod y cwmni buddugol yn cymryd rheolaeth o 124 milltir (200km) o drac oddi wrth Network Rail, gan olygu'r gallu i uwchraddio'r llwybrau.
Mae bwriad hefyd i sicrhau fod gwerth 拢5bn o fuddsoddiadau dros 15 mlynedd yn dod o fewn cyrraedd cwmn茂au lleol bach a chanolig.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru ei fod yn gyfle "unwaith mewn cenhedlaeth" i ddylunio gwasanaeth fydd yn ateb y galw cynyddol o ran nifer y teithwyr a'u disgwyliadau.
"Dyma'r tro cyntaf ers datganoli i Gymru gael y cyfle i ddylunio rhywbeth i'w hun," meddai Mr Price.
"Fe wnaethon ni etifeddu beth oedd gennym ni gynt. A bydd llawer o bobl wedi profi hyn ddydd i ddydd - cyrraedd gorsaf drenau dim ond i ganfod nad ydyn nhw'n gallu dal tr锚n."
Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei gyhoeddi i'r farchnad stoc ac i ACau yn y Senedd.
Ond does dim disgwyl manylion llawn am y fasnachfraint newydd tan fis nesaf, a bydd y cwmni aflwyddiannus yn cael 10 diwrnod i apelio'r penderfyniad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2018
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2018