S锚l bendith i ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n bwrw ymlaen gyda chynllun ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd.
Ers misoedd mae cynghorwyr a thrigolion lleol wedi bod yn galw ar y llywodraeth i ddod i benderfyniad yngl欧n 芒'r ffordd osgoi yn yr ardal.
Bydd y gwaith yn golygu adeiladu ffordd newydd chwe milltir (9.7km) er mwyn ceisio lleihau tagfeydd yn yr ardal yn ystod oriau brig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod disgwyl i'r gwaith ar y ffordd osgoi, sydd werth 拢135m, gael ei gwblhau erbyn 2021.
'Cysylltu cymunedau'
Bydd y llywodraeth nawr yn bwrw ati i ddyfarnu cytundeb er mwyn dechrau'r gwaith adeiladu.
Mae disgwyl i'r gwaith hwnnw ddechrau ym mis Tachwedd eleni, a chael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2021.
"Mae'n newyddion gwych y byddwn ni'n bwrw ymlaen i adeiladu ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd," meddai'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn ystod ymweliad 芒'r ardal ddydd Iau.
"Bydd y ffordd newydd yn helpu i gysylltu cymunedau yn yr ardal drwy seilwaith cynaliadwy a chadarn, a bydd hefyd yn gyswllt hanfodol i'r A55 a'r tu hwnt i Iwerddon, Lloegr ac Ewrop.
"Mae hefyd yn gyfle mawr i sicrhau swyddi yn lleol, hyfforddiant i'r gweithlu a phrentisiaethau, yn enwedig yn ystod y cyfnod adeiladu."
Ychwanegodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates y byddai'r datblygiad yn dod 芒 "llawer o fanteision i'r ardal".
"Bydd y ffordd osgoi yn helpu i leihau tagfeydd traffig, gwella ansawdd yr aer a lleihau s诺n o gerbydau modur yng Nghaernarfon, Bontnewydd a phentrefi cyfagos," meddai.
"Drwy hyn, bydd yn ein cymunedau a'n hamgylchedd yn fwy iach."
Dywedodd y byddai'r ffordd osgoi hefyd yn gwella cysylltiadau ag ardaloedd twristaidd fel Pen Ll欧n.
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan y gwleidyddion lleol Sian Gwenllian AC a Hywel Williams AS, ddywedodd ei fod yn "fuddugoliaeth ysgubol i ymgyrch hir dymor Plaid Cymru Arfon".
"Bydd y ffordd osgoi newydd yn hwb anferth i'n heconom茂au lleol a chenedlaethol, yn cryfhau ein hisadeiledd, ac yn cynnig cyfleoedd am swyddi i'n trigolion yn ogystal 芒 darparu budd cymdeithasol hir dymor," meddai'r ddau mewn datganiad.
"Rydym nawr yn edrych ymlaen at weld y prosiect yn bwrw yn ei flaen ac fe fyddwn yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif er mwyn sicrhau fod y gwaith wedi'i gwblhau erbyn 2021 fel sydd wedi'i addo."
Oedi
Mae hi bellach tua 10 mlynedd ers dechrau trafod adeiladu'r ffordd osgoi.
Bydd y ffordd newydd yn mynd o gylchfan Plas Menai, ac yn pasio i'r dwyrain o Gaernarfon, cyn croesi'r A487 presennol.
Fe fydd y ffordd wedyn yn pasio i'r gorllewin o bentrefi Bontnewydd, Dinas a Llanwnda, cyn dod allan yng nghylchfan Llanwnda.
Bydd cylchfannau newydd hefyd yn cael eu hadeiladu ym Meifod a Chibyn fel rhan o'r datblygiad.
Y bwriad gwreiddiol oedd adeiladu'r ffordd osgoi yn 2016 a'i gorffen erbyn y llynedd.
Symudwyd y dyddiadau hynny eto gyda'r bwriad o gwblhau erbyn diwedd 2019, ond llynedd fe gyhoeddwyd oedi pellach gyda chyhoeddiad yn cael ei wneud cyn diwedd y gaeaf.
Ym mis Mawrth 2018 cafodd y llywodraeth eu cyhuddo o "lusgo traed annerbyniol" wedi iddyn nhw gyfaddef eu bod angen rhagor o amser i ystyried o ganlyniad i'r "maint sylweddol o ohebiaeth" a gafwyd.
Fe wnaeth yr oedi parhaus arwain at bryderon na fyddai'r ffordd osgoi yn digwydd o gwbl.
Yn 么l y cynghorydd Peter Garlick, sy'n cynrychioli Bontnewydd a Llanfaglan, mae'r tagfeydd traffig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn "ofnadwy" ac mae'n broblem sydd angen ei datrys ers blynyddoedd.
"Mae'r traffig yn effeithio ar y pentrefi cyfagos hefyd. Mae'r traffig yn mynd 'n么l dwy neu dair milltir - fwy weithiau yn yr haf wrth gwrs," meddai.
"Mae'n ymestyn 'n么l i dref Caernarfon, mae'n ymestyn fyny i bentre' Llanwnda, ac os rhywbeth mae'n ymestyn 'mlaen i gyfeiriad Groeslon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2017