Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyfyngu cyflymder i wella ansawdd aer Cymru
Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno cyfyngiadau cyflymder o 50 mya ar rannau mwyaf llygredig bump o ffyrdd prysuraf Cymru fel rhan o'i chynlluniau i wella ansawdd aer yng Nghymru.
Bydd proses ymgynghori yn dechrau ddydd Mercher ar gynlluniau i sefydlu Parthau Aer Gl芒n - ardaloedd dynodedig lle bydd camau i leihau effaith llygredd yn yr awyr ar y cyhoedd a'r amgylchedd.
Daw'r cyhoeddiad wedi i'r Uchel Lys roi tan ddiwedd Gorffennaf eleni i weinidogion Cymru gyhoeddi eu cynlluniau terfynol i daclo llygredd aer, yn unol 芒 thargedau'r UE.
Wrth gyhoeddi pecyn o fesurau a chronfa gwerth 拢20m, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, bod sicrhau aer gl芒n yng Nghymru yn "un o'i blaenoriaethau allweddol".
Er mwyn mynd i'r afael 芒 lefelau anghyfreithlon o nitrogen deuocsid (NO2), mae'n fwriad cyflwyno cyfyngiadau cyflymder dros dro o 50 mya yn ystod y ddau fis nesaf mewn rhannau byr o'r ffyrdd canlynol:
- A494 yng Nglannau Dyfrdwy
- A483 yn Wrecsam
- M4 rhwng Cyffyrdd 41 a 42 (Port Talbot)
- M4 rhwng Cyffyrdd 25 a 26 (Casnewydd)
- A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd.
Mae cynigion yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys atal y cerbydau mwyaf llygredig rhag gyrru o fewn Parthau Aer Gl芒n, neu eu cyfyngu o fewn yr ardaloedd dan sylw.
Y gobaith yw y byddai'r camau'n helpu lleihau tagfeydd ac arwain at 18% yn llai o allyriadau yn ardal y parthau.
Bydd y Gronfa Ansawdd Aer ar gael tan 2021 i helpu awdurdodau lleol wella ansawdd aer yn eu hardaloedd.
Hefyd, fe fydd gwefan newydd yn galluogi'r cyhoedd i weld y wybodaeth ddiweddaraf, sy'n cael ei ddiweddaru'n fyw, am lefelau llygredd aer yn eu hardaloedd, ac adnoddau ar gyfer ysgolion,
Dywedodd Ms Blythyn ei bod yn "hyderus" y bydd y mesurau newydd "yn cefnogi'r newidiadau y mae angen i ni eu gwneud er mwyn sicrhau aer glanach".
"Rwy' wedi ymrwymo i gymryd camau i fynd i'r afael 芒 llygredd aer yng Nghymru er mwyn creu dyfodol iach i'n cymunedau ac er mwyn gwarchod ein hamgylchedd naturiol."
Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod yn araf i weithredu, ac yn 么l Plaid Cymru, mae'n "gywilyddus" bod angen pwysau o gyfeiriad yr Uchel Lys cyn cymryd camau perthnasol.
'Amddiffyn iechyd pobl Cymru'
Dywedodd Andrea Lee, llefarydd ar ran ClientEarth: "Rydym ni'n falch o glywed fod y gweinidog yn cydnabod fod hyn yn fwy na dyletswydd gyfreithiol ond yn ffordd o amddiffyn iechyd pobl Cymru rhag lefelau niweidiol o lygredd aer".
Yn 么l Nicholas Lyes pennaeth polis茂au ffyrdd RAC, maen nhw hefyd yn cefnogi'r mesur o ran egwyddor, ond yn cwestiynu ai cyfyngu cyflymder yw'r ffordd fwyaf effeithiol o leihau lefelau nitrogen deuocsid.
Mae Edmund King, llywydd AA yn credu fod llygredd aer yn fater "hynod o bwysig" ond bod angen targedu'r cerbydau mwyaf niweidiol yn hytrach na "chosbi" pob gyrrwr disel.