Gorchymyn i gyhoeddi cynllun taclo llygredd aer i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidogion Cymru wedi cael nes diwedd mis Gorffennaf eleni i gyhoeddi eu cynlluniau terfynol i daclo llygredd aer.
Mewn achos llys ym mis Ionawr fe wnaethon nhw ildio i ymgyrchwyr newid hinsawdd eu bod nhw wedi methu 芒 chyrraedd targedau'r UE ar dorri llygredd aer.
Ddydd Mercher fe gytunodd barnwr fod y mesurau presennol i daclo'r broblem yn anghyfreithlon.
Mae'r dyfarniad yn golygu fod dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun erbyn diwedd Ebrill a chynllun terfynol erbyn 31 Gorffennaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i wella safon aer ar draws Cymru, yn unol 芒 rheolau'r UE.
Cafodd y dyfarniad ei groesawu gan gr诺p ymgyrchu ClientEarth, a ddywedodd y byddai'r cynlluniau yn gorfod "dangos pa gamau fydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i daclo llygredd aer yng Nghymru".
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Bydd ein Cynllun Aer Gl芒n i Gymru diweddar yn cynnwys Fframwaith Parth Aer Gl芒n i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflwyno Parthau Aer Gl芒n mewn ffordd gyson ac effeithiol, gwella sut mae awdurdodau lleol yn rhoi gwybod am broblemau ansawdd aer, a sefydlu Canolfan Asesu a Monitro Ansawdd Aer Genedlaethol i Gymru.
"Byddwn hefyd yn ail-lansio gwefan Ansawdd Aer Cymru Llywodraeth Cymru er mwyn gwella rhagolygon ansawdd aer, gydag adrannau newydd ar gyfer ysgolion a chyngor iechyd."
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cael gorchymyn i dalu costau ClientEarth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2017