Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Adam Price: 'Cwestiynau difrifol' am enwi pont Hafren
Mae Plaid Cymru wedi galw am ymgynghoriad cyhoeddus i ailenwi ail Bont Hafren ar 么l Tywysog Cymru.
Mae dros 30,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r penderfyniad a gyhoeddwyd ddydd Gwener gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.
Dywedodd AC Plaid Cymru, Adam Price fod Llywodraeth Cymru wedi "tynnu sylw oddi ar y mater" drwy beidio 芒 gwrthwynebu, a bod "angen gofyn cwestiynau difrifol" ohonyn nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae enwi'r bont yn fater i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru."
'Teimladau cryf'
Mae'r Frenhines a'r Prif Weinidog wedi rhoi s锚l bendith ar gynlluniau i ailenwi'r bont i ddathlu pen-blwydd y Tywysog Charles yn 70 oed, a 60 mlynedd ers iddo gael y teitl Tywysog Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ni wnaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wrthwynebu'r syniad pan ddywedwyd wrtho'r llynedd.
Dywedodd Llywodraeth y DU fod Mr Cairns wedi "cyfathrebu'n gyson" gyda Mr Jones yngl欧n 芒'r penderfyniad: "Drwy gydol y broses, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn llawn gefnogol o'r cyhoeddiad."
Dywedodd Mr Price ei bod yn debygol bod "y teimladau cryf" yngl欧n 芒'r mater wedi "synnu Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru".
"Mae'n brin iawn i ddegau o filoedd o bobl yng Nghymru arwyddo deiseb yngl欧n 芒 rhywbeth fel hyn, gyda chymaint o ymateb emosiynol a herllyd.
"Wrth gwrs nid yw yngl欧n ag enw'r bont, ond yn hytrach y symbolaeth, a'r ffordd gafodd y penderfyniad i'w wneud."
Ychwanegodd Mr Price: "Mae angen gofyn cwestiynau difrifol yngl欧n 芒 pham wnaeth llywodraeth Lafur dynnu eu sylw oddi ar y mater, gan gofio am yr ymateb chwyrn gan y cyhoedd, dyliwn nawr ddisgwyl i Lywodraeth Cymru wneud cais ffurfiol i Lywodraeth y DU yn galw am ymgynghoriad cyhoeddus."
'Mwyafrif tawel yn gefnogol'
Dydd Gwener dywedodd Mr Cairns nad oedd wedi synnu gyda'r gwrthwynebiad i'r cynllun, ond dywedodd fod "mwyafrif tawel ehangach yn gefnogol".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae enwi'r bont yn fater i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru."
Daw ar 么l i'r Gweinidog Diwylliant, yr Arglwydd Elis-Thomas ddweud ei fod yn bwriadu marchnata Cymru fel "tywysogaeth o fewn y DU" i ymwelwyr.