91热爆

'Argyfwng' tai'n golygu'r angen am fwy o fuddsoddi

  • Cyhoeddwyd
TaiFfynhonnell y llun, pics-xl/Thinkstock

Mae mwy na 60,000 o deuluoedd ar restrau aros am dai cymdeithasol yng Nghymru yn 么l y ffigyrau diweddaraf.

Mae elusen Shelter Cymru wedi disgrifio hyn fel "argyfwng tai" ac yn galw am fwy o fuddsoddiad mewn tai fforddiadwy.

Dywed Cartrefi Cymunedol Cymru fod cymdeithasau tai yn gobeithio codi 75,000 o dai dros yr 20 mlynedd nesaf.

Yn 么l Llywodraeth Cymru mae hyn yn "flaenoriaeth sylfaenol" ac maent wedi ymrwymo i godi 20,000 o dai fforddiadwy erbyn 2021.

Dros 60,000 yn aros

Mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn gymwys i wneud cais am dai fforddiadwy neu dai cymdeithasol, ac mae nifer o'r rhai sy'n disgwyl nawr mewn tai cymdeithasol yn barod, ond o bosib angen eiddo mwy.

60,569 o deuluoedd sydd ar restrau aros, ond dim ond 20 o'r 22 awdurdod lleol sydd 芒'r wybodaeth i law felly mae'r ffigwr yn debyg o fod yn uwch.

Dywedodd John Puzey o Shelter Cymru nad oedd y ffigyrau yn syndod.

"Rwy'n credu bod hyn yn dangos y bwlch sydd wedi agor rhwng nifer y bobl yng Nghymru sydd angen tai fforddiadwy a'r nifer o gartrefi sydd ar gael mewn gwirionedd," meddai.

"Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn ac yn buddsoddi mwy mewn cartrefi, ond rhaid i ni gael mwy fyth o fuddsoddiad os ydyn ni'n mynd i ateb y galw."

Ffynhonnell y llun, Shelter Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Shelter Cymru mae "argyfwng tai" yn bodoli yng Nghymru am fod miloedd ar restrau aros

Ychwanegodd fod llai o landlordiaid yn derbyn tenantiaid sydd ar fudd-daliadau, a bod nifer yn byw mewn amodau anodd wrth ddisgwyl am eiddo priodol a fforddiadwy.

"Rydym wedi gweld prinder o dai fforddiadwy ers tro bellach... mae ymgais i ateb hynny, ond yn y cyfamser mae gennym argyfwng tai."

Cydnabod ymrwymiad

Dywedodd Stuart Ropke, prif weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru ei fod yn cytuno bod argyfwng.

Er ei fod yn cydnabod bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi 20,000 o dai erbyn 2021 yn bositif, dyw hynny ddim yn ddigon meddai.

"Nid yw hyn yn ateb y galw sydd wedi ei nodi gan ymchwil annibynnol, ond mae'n fwy nag yr ydym wedi gweld yn y gorffennol.

"Yr hyn sydd angen nawr yw mynd ymhellach. Mae gennym ddyhead fel y sector tai cymdeithasol i godi 75,000 o dai dros 20 mlynedd - mae hynny 50% yn uwch na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwybod bod galw mawr am dai fforddiadwy a'u bod yn buddsoddi 拢1.4bn yn y sector "i daclo ystod o broblemau, gwella'r stoc dai bresennol a cheisio atal pobl rhag mynd yn ddigartref".

"Rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth sy'n dileu'r hawl i brynu tai cymdeithasol a gwarchod y stoc, ac ysgogi adeiladu tai newydd i bobl Cymru."

Ychwanegodd y llefarydd fod Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd, a phasio'r nod ar gyfer tai fforddiadwy yn ystod tymor diwetha'r llywodraeth drwy weithio gyda chymdeithasau tai a chynghorau.