Gwenda Owen yw enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes
- Cyhoeddwyd
Gwenda Owen o Ruthun sydd wedi ennill Tlws John a Ceridwen Hughes eleni - gwobr flynyddol i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.
Mae'r wobr yn gyfle i Urdd Gobaith Cymru roi cydnabyddiaeth a diolch i unigolyn sydd wedi rhoi o'u hamser i gefnogi pobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Ms Owen, sy'n gyn-athrawes a phennaeth ysgol ac yn fam i dri o fechgyn, wedi derbyn y clod am ysbrydoli cannoedd o blant a phobl ifanc gogledd Cymru.
Pan yn athrawes yn Ysgol Gynradd Pentrecelyn, Rhuthun, bu'n hyfforddi unigolion ac yn sgriptio a llwyfannu caneuon actol, cyflwyniadau dramatig a phartion llefaru llwyddiannus gan helpu'r ysgol i gipio nifer o wobrau mewn Eisteddfodau.
Arwain ysgol i lwyddiannau lu
Pan aeth ymlaen i fod yn bennaeth ar Ysgol Llandrillo ger Corwen parhaodd yr ymroddiad, gan arwain yr ysgol i lwyddiannau lu mewn Eisteddfodau cylch a sir.
Bu hefyd yn feirniad llefaru mewn sawl Eisteddfod gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint 2016.
Am nifer o flynyddoedd hi oedd trefnydd ac ysgrifennydd Pwyllgor Cylch ardal Edeyrnion.
Cafodd Ms Owen wybod ei bod wedi ennill y wobr wedi i griw teledu droi i fyny i'w gweld yn Eisteddfod Rhanbarth Dinbych ddydd Sadwrn.
Dywedodd ei mab Dyfan Phillips, a enwebodd ei fam ar gyfer y wobr: "Fel rhiant, fe ysbrydolodd mam tri o feibion i ddilyn ei hesiampl i fod yn athrawon brwdfrydig tuag at addysg plant, tuag at yr Urdd a thuag at dyfodol addysg cyfrwng Cymraeg. Mawr yw ein dyled iddi."
Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: "Hoffwn ddiolch o waelod calon i Gwenda am ei holl waith caled dros y blynyddoedd yn cefnogi ieuenctid ardal Sir Ddinbych a'r cylch ehangach i wireddu eu breuddwydion, llongyfarchiadau calonog ar ran holl aelodau'r Urdd!"
Caiff y tlws ei rhoi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni, oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.
Bydd Gwenda Owen yn derbyn y tlws mewn seremoni arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn Llanelwedd ddiwedd mis Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2017