Yr ifanc a 诺yr: Linda Griffiths a Lisa Angharad

Mae Linda Griffiths yn adnabyddus fel cantores gyda'r band gwerin Plethyn o Sir Drefaldwyn, a'i merch Lisa Angharad yn aelod o Sorela, gr诺p a sefydlodd gyda'i dwy chwaer Gwenno a Mari.

Mae Lisa hefyd yn un o gyflwynwyr Y Sioe Frecwast ar fore Sadwrn ar 91热爆 Radio Cymru 2.

Yma mae'r fam a'r ferch yn trafod eu perthynas:

Ffynhonnell y llun, Lisa Angharad

Linda Griffiths - "Oedd hi fel tase hi wedi cael ei geni i berfformio."

Roedd Lisa yn blentyn bywiog iawn, iawn. Roedd hi'n llawn brwdfrydedd a hwyl, yn dipyn o gymeriad! Doedd dim digon o oriau yn y dydd iddi wneud popeth oedd hi eisiau gwneud, ac mae hi'n dal fel 'na r诺an.

Mae hi'n gweithio'n galed, chwarae'n galed. Dyna Lisa.

Mi oedd 'na ganu yn y t欧, mi oedd Lisa fel ei dwy chwaer Gwenno a Mari, yn clywed Plethyn yn ymarfer, ond byswn i'n dweud bod yr awydd i berfformio yn Lisa yn llawer iawn cryfach na fuodd o erioed yndda i.

Achos mod i'n canu oedd pobl yn gofyn 'a ydy'r merched yn licio cerddoriaeth'? O'n i'n teimlo 'o druan 芒'r rhain' achos oedd pobl yn disgwyl iddyn nhw ganu. O'n i'n ymwybodol o beidio eu pwsho nhw, os oedden nhw eisiau canu ac yn mwynhau 'neud yna gwych, ond mai nhw sy'n penderfynu.

Dwi'n meddwl bod Lisa yn teimlo bo' fi ddim yn dangos brwdfrydedd, ond beth oedd o, oedd fy mod i'n benderfynol o beidio busnesa yng ngyrfa Lisa a gyda Sorela. Mae'r talent yna, does dim tamaid o wahaniaeth pwy yw'r rhieni.

Oedd y canu jyst yn rhywbeth ddigwyddodd yn ddamweiniol i fi, ond roedd Lisa wirioneddol eisio perfformio, bob cyfle byddai iddi fod ar lwyfan, beth bynnag oedd o, oedd Lisa yn manteisio ar y cyfle. Mae'r perfformio yn ei anian hi yn rhywle.

'Hapus yn ei chroen'

Lisa yw'r hyna' o dair chwaer ac mae hi'n addoli Gwenno a Mari ac wastad wedi. Mae hi'n chwaer fawr garedig ac ystyrlon iawn, mae hi wedi bod yna iddyn nhw ac mae'r dair wastad wedi bod yn agos. Gan bo nhw'n canu efo'i gilydd, mae'n gallu creu tensiwn oherwydd bod Lisa mor frwdfrydig. Hi sy'n gyrru, ac mae rhaid cael un mewn band sydd in charge - a Lisa 'di honno!

Mae unrhyw un sy'n 'nabod Lisa yn gwybod bod ganddi farn bendant iawn, iawn am bethe. Dydy hi ddim yn ofn mynegi y farn yne a dwi'n meddwl ar y cyfan bod hynny yn beth da. Dwi'n ei chefnogi hi a dwi'n browd ohoni.

Mae hi'n agored iawn am ryw ac yn credu dyle ddim byd fod yn tab诺, mae hi'n ffeminist a mae ganddi farn onest. Dim ond unwaith neu ddwy hwyrach mod i'n teimlo ei bod hi wedi mynd yn rhy bell, ond ar y cyfan dwi'n derbyn bod hynna yn bwysig iawn i Lisa.

Dydy o ddim bob amser yn hawdd. Maen rhaid i ti fod yn barod i gael dy feirniadu a fi'n credu bod Lisa yn gallu ymdopi efo hynna yn lot lot gwell na fi.

Mae Lisa yn gwbwl hapus yn ei chroen a ti bron yn cenfigennu at hynny weithe achos dydy pawb ddim felly.

Ffynhonnell y llun, Lisa Angharad

Ges i fy magu ar ffarm yn Sir Drefaldwyn a'r agwedd oedd i gadw traed rhywun ar y ddaear, 'paid a meddwl dy fod ti'n well na phawb arall'. Roedd magwraeth fy merched i yn llawer mwy agored na'r fagwraeth ges i.

Oedd gen i berthynas agos iawn efo Mam ond oedd 'na bethe fyswn i byth wedi trafod efo hi, ond dwi'n credu erbyn hyn mae pobl yn trafod pethe yn llawer mwy agored, ac mae hynny'n iachach.

Dwi fel unrhyw riant ddim eisiau gwybod y cwbwl, ond mae'r teimlad yna y galli di rannu os wyt ti eisiau.

'Perthynas agos'

Maen rhaid i ti barchu dy blant, mae'n gweithio dwy ffordd. Ti ddim yn cael parch gan dy blant os nad wyt ti'n dangos parch. Dwi'n agos iawn at Lisa, mae gynnon ni berthynas dda. Dwi wrth fy modd yn cael merched sy' wedi tyfu fyny. Dwi'n eu mwynhau nhw fel oedolion ac yn eu hystyried nhw fel ffrindiau, ond dwi hefyd yn chwarae r么l y fam.

Wrth gwrs mod i'n browd. Ma' pob rhiant yn browd o'u plentyn, ond dwi'n dawel falch!

Ffynhonnell y llun, Lisa Angharad

Disgrifiad o'r llun, Linda a'i merched

Lisa Angharad.... "dyw Mam ddim yn plygu i neb."

Ges i blentyndod hapus iawn. Lot o ryddid i chwarae tu fas. O'n i'n byw mewn pentre' bach ac yn mynd i ysgol fach. Doedd dim rheolau strict iawn adre', dim ond ein bod ni n么l i swper.

Mae Mam yn fam amazing, ni gyd yn absolutely caru Mam. Os oedd hi'n mynd off i ganu gyda Plethyn neu'n mynd i gyflwyno, o'n i a fy ddwy chwaer yn excited iawn i'w chael hi adre, o'n ni'n sefyll tu fas y t欧 i weld hi'n cyrraedd n么l.

Fi wedi licio perfformio erioed. Mae fy mentality i yn hollol wahanol i Mam. Rhywffordd wnaeth Mam beni lan yn canu ar lwyfan, ond fi 'di bod yn despret i berfformio o'r cychwyn cyntaf.

Pan o'n i'n tyfu lan o'n i mo'yn Mam i fod yn fwy pushy gyda fi, ac yn fwy keen i fynd i Steddfode ac yn y blaen. Ond oedd well 'da hi dreulio ei dydd Sadwrn yn yr awyr agored gyda'r ceffylau a gwneud ei pheth ei hunan. O'dd hi'n meddwl os oedden ni wirioneddol mo'yn neud e, bydden ni'n ffeindio ffordd ein hunan, a dyna beth fi wedi 'neud.

Oeddwn i'n cystadlu ond do'n i ddim yn cael unrhyw lwyddiant yn yr Eisteddfodau achos o'n i ddim yn brawddegu'n gywir neu'n 'neud stumiau ar fy ngwyneb. A dyna dwi wedi 'neud ar hyd fy oes. Dilyn fy ffordd fy hunan.

Fel 'na ydw i. A fel 'na mae Mam hefyd. Dyw Mam ddim yn plygu i neb. Fi'n prowd iawn o'r elfen yna o fy mhersonoliaeth i, achos fi'n ffeindio y bobl sy'n plygu yn hawdd yn boring.

Symud ymlaen

Fi'n frwdfrydig am bethe yn fy mywyd. Fi'n teimlo'n gryf bod angen i ni symud ymlaen. Fi'n berson di-flewyn-ar dafod a fi ddim yn ofn beth ma' pobl yn ei feddwl amdana' i.

O'dd Mam yn rhoi lot o ryddid i ni a dyna pam dwi'n meddwl bod gen i a fy chwiorydd berthynas mor dda 芒 hi. Tasen i'n cael plentyn nawr fydden i'n 'neud fy ngorau glas i'w fagu fe fel wnaeth Mam fagu fi.

Wnaeth dim un ohonon ni bwsho'r rheolau llac, achos o'n ni'n ei pharchu hi. Os oedden ni mo'yn mynd mas, oedd Mam yn dweud "ewch mas ond byddwch yn saff ac edrychwch ar 么l eich gilydd."

Mae hi'n fam wych.

Ffynhonnell y llun, Lisa Angharad

Hefyd o ddiddordeb: