Rhybudd melyn yn parhau wedi i eira trwm ddisgyn
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd eira a rhew'r Swyddfa Dywydd yn parhau wedi i gawodydd gaeafol ddisgyn dros nos Sadwrn a bore dydd Sul.
Mae yna rybudd melyn "byddwch yn ymwybodol" mewn grym ar draws Cymru tan hanner nos nos Sul, ac mae yna rybudd melyn o rew ar gyfer dydd Llun.
Mae rhai cynghorau eisoes wedi cyhoeddi y bydd rhai o'u hysgolion ynghau ddydd Llun.
Bydd pob un o ysgolion Blaenau Gwent ar gau, tra bydd rhai ysgolion ynghau mewn ardaloedd eraill. Mae'r manylion ar eu gwefannau:
Roedd disgwyl eira yn y de a'r canolbarth gan fwyaf ond fe ddisgynnodd eira yn y gogledd hefyd, gyda hyd at chwe modfedd yn disgyn yn ardaloedd Llanrwst a'r Bala.
Ffyrdd ar gau
Fe effeithiodd yr eira ar nifer o ffyrdd ddydd Sul, gan gynnwys yr A476 yng Ngharmel, Sir Gâr, a'r A4061 Bwlch a Rhigos a'r A4233 Y Maerdy yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd ffyrdd yr A487 rhwng Gellilydan a'r B4391 Ffestiniog a'r A44 rhwng Aberystwyth a Llangurig eu cau am gyfnod hefyd ond maen nhw wedi ail agor bellach.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cyhoeddodd Heddlu'r De lun o gar ben i waered yn y clawdd ar yr A48 ger Pen-y-bont. Yn ffodus, chafodd y gyrrwr ddim o'i anafu.
Roedd oedi ar Bont Hafren am fod un lôn wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad oherwydd gwyntoedd cryfion.
Cafodd awyrennau eu canslo i Amsterdam a Pharis o Faes Awyr Caerdydd ben bore oedd yn golygu oedi i Ffrancwyr oedd wedi dod i'r brifddinas ar gyfer y gêm rygbi yn erbyn Cymru ddydd Sadwrn.
Maen nhw wedi dechrau gadael y maes awyr erbyn hyn, wrth i wasanaethau ailddechrau.
Yn y brifddinas, dywedodd cwmni Bws Caerdydd eu bod yn parhau â mwyafrif eu gwasanaethau yn ôl yr arfer, ond dywedodd Trenau Arriva Cymru fod problemau ar y lein rhwng Casnewydd a Henffordd.
Fe amharodd y tywydd ar y gwasanaeth trenau rhwng Llanheledd a Glyn Ebwy hefyd.
Y cyngor i deithwyr yw i fynd ar ei gwefan am y diweddaraf.
Gwasanaethau fferi
Cafodd gwasanaethau fferi rhwng Cymru ac Iwerddon eu gohirio neu eu canslo.
Cafodd gwasanaeth Irish Ferries 08.45 a 11.45 rhwng Dulyn a Chaergybi eu canslo a hefyd yr 11.50 a'r 17.15 i'r cyfeiriad arall.
Yn ogystal â hynny, fe ganslodd Stena Line y croesiad am 14.00 ar yr un llwybr, a dydy'r gwasanaethau fferi rhwng Abergwaun a Rosslare ddim yn teithio yn ystod y dydd chwaith.
Cafodd gêm bêl-droed Caerdydd i ffwrdd yn erbyn Derby, ei gohirio.
Mae hynny wedi cythruddo llefarydd Clwb Cefnogwyr Caerdydd, Vince Alm, sy'n galw am ymchwiliad er mwyn deall pam fod y gêm wedi ei chanslo.
Penderfyniad 'gwarthus'
Dywedodd ar Facebook bod 2,600 o gefnogwyr Yr Adar Gleision wedi gwneud yr ymdrech i deithio i Derby a dywedodd rheolwr y clwb, Neil Warnock, fod y penderfyniad i ohirio'r gêm yn "warthus".
Ond dywedodd Derby County nad oedd y stadiwm mewn cyflwr saff ar gyfer y cefnogwyr, staff a'r swyddogion.
Dyw hanner marathon Casnewydd ddim yn digwydd chwaith o achos y tywydd. Dyma'r eildro iddi gael ei chanslo o achos y tywydd.
Fydd yna ddim rasio ceffylau yn Ffos Las, Caerfyrddin ddydd Sul oherwydd yr eira.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2018