91热爆

Dileu trydariad bocsio McEvoy wnaeth 'wylltio' AC Plaid

  • Cyhoeddwyd
neil mcevoy a dafydd ellis-thomas gyda menig bocsioFfynhonnell y llun, Twitter/Neil McEvoy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y llun ei gyhoeddi o gyfrif Neil McEvoy i hyrwyddo digwyddiad bocsio

Mae neges o gyfrif Twitter Neil McEvoy am Leanne Wood wedi cael ei ddileu yn dilyn beirniadaeth gan rai o ACau Plaid Cymru.

Dywedodd Bethan Sayed AC, gynt Bethan Jenkins, fod y neges, oedd yn cynnwys llun o Mr McEvoy a Dafydd Elis-Thomas yn gwisgo menyg bocsio, wedi ei "gwylltio" a'i fod "ddim yn ddoniol o gwbl".

Cafodd y llun ei bostio gyda'r neges "rydyn ni'n barod amdani" yn dilyn trydariad gan newyddiadurwyr yn hyrwyddo cyfweliad gyda Ms Wood.

Ers hynny mae aelod o staff Mr McEvoy wedi dweud mai ef anfonodd y neges, sydd bellach wedi ei ddileu.

Mae Mr McEvoy a'r Arglwydd Elis-Thomas wedi gadael gr诺p Plaid Cymru yn y Cynulliad ers yr etholiad diwethaf, a bellach yn eistedd fel aelodau annibynnol.

'Synnwyr digrifwch'

Ddydd Mercher fe wnaeth gohebydd y Western Mail, Martin Shipton, drydar neges yn cyfeirio at gyfweliad 芒 Ms Wood ble roedd yn gofyn iddi am ei barn am y ddau wleidydd.

Mewn ymateb fe wnaeth cyfrif Twitter Mr McEvoy gyhoeddi llun yn ei ddangos ef a'r Arglwydd Elis-Thomas yn gwisgo menyg bocsio gan ddweud "rydyn ni'n barod amdani", gydag emoji o wyneb yn chwerthin.

Roedd y llun wedi ei dynnu i hyrwyddo digwyddiad yn y Senedd ar gyfer y gr诺p trawsbleidiol ar focsio.

Mae 91热爆 Cymru bellach ar ddeall mai Matthew Ford, aelod o staff Mr McEvoy, wnaeth anfon y trydariad gwreiddiol.

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y neges ar Twitter wnaeth gythruddo Bethan Sayed AC

Daeth trydariad diweddarach o gyfrif Mr McEvoy ei bod hi'n "dda cadw synnwyr digrifwch".

Ond fe wnaeth hynny ennyn ymateb gan gyn-ymgeisydd Plaid Cymru, Mike Parker, a ddywedodd: "Efallai yr hoffech chi esbonio pa ran o awgrymu taro dynes gyda menig bocsio sydd yn 'hiwmor'? Dwi'n ei chael hi'n anodd gweld hynny fy hun."

Yn ei hymateb hithau dywedodd Ms Sayed: "DDIM yn ddoniol o gwbl. A dweud y gwir dwi wedi fy ngwylltio. Ac anadlu..."

Cafodd Mr McEvoy ei wahardd yn barhaol o gr诺p Plaid Cymru yn y Cynulliad ym mis Ionawr wedi i Ms Wood ddweud ei fod wedi "tanseilio undod a chyfanrwydd y blaid".

Fe wnaeth Dafydd Elis-Thomas adael gr诺p Plaid Cymru bum mis wedi etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2016, cyn ymuno 芒 Llywodraeth Cymru fel y Gweinidog Diwylliant ym mis Tachwedd 2017.

'Hollol amhriodol'

Fe wnaeth AC Plaid Cymru dros Arfon, Sian Gwenllian ymuno yn y feirniadaeth gan ddweud nad oedd y neges yn y trydariad yn "hiwmor diniwed".

Mewn ymateb fe ddywedodd Mr McEvoy mewn neges Twitter arall nad oedd yn golygu "unrhyw falais" a'i fod wedi rhoi "ateb ffraeth" i "gwestiwn ffraeth" gan newyddiadurwr.

Ychwanegodd y byddai'n dileu'r neges petai Leanne Wood yn gofyn iddo wneud, gan ddweud bod "y ddau ohonom ni'n aelod o'r un blaid ac ar yr un ochr".

'Dim malais'

Yn ddiweddarach fe wnaeth yr Arglwydd Elis-Thomas drydar gan ddweud fod "yr awgrym yn y trydariad yn hollol amhriodol", ac fe gafodd y neges ei ddileu o gyfrif Twitter Mr McEvoy ychydig funudau wedyn.

Mewn datganiad dywedodd Mr Ford ei fod wedi anfon y neges o gyfrif Mr McEvoy heb yn wybod i'r AC, a bod y neges "wedi ei anfon heb falais".

"Rydw i wedi ymddiheuro i Neil a byddaf yn sicrhau bod unrhyw drydariadau sydd yn cael eu hanfon ar ei ran yn y dyfodol yn cael eu gwirio ganddo ef gyntaf."