91热爆

Clybiau ieuenctid Gwynedd i gau i geisio arbed arian

  • Cyhoeddwyd
Ieuenctid GwyneddFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd

Bydd Cyngor Gwynedd yn cael gwared 芒 holl glybiau ieuenctid y sir wrth geisio arbed 拢270,000 o'i gyllideb.

Fe wnaeth cabinet y cyngor y penderfyniad ddydd Mawrth i gau pob un o'r 39 clwb ieuenctid erbyn Y Pasg eleni, a chael un clwb fyddai'n gwasanaethu'r sir gyfan yn eu lle.

Daw'r penderfyniad er beirniadaeth gan rai nad oedd yr awdurdod wedi ymwneud 芒 chymunedau yngl欧n 芒 cholli'r clybiau.

Yn yr un cyfarfod fe wnaeth y cabinet benderfynu y bydd nawdd mudiad ffermwyr ifanc y sir yn dod i ben ar 么l y flwyddyn nesaf.

'Ddim yn cwrdd ag anghenion'

Dywedodd aelod o'r cabinet, y Cynghorydd Craig ab Iago, bod y newid yn "anodd" ond angenrheidiol.

"Allwn ni ddim parhau i wneud yr un peth flwyddyn ar 么l blwyddyn os dyw'r gwasanaeth ddim yn cwrdd ag anghenion pobl ifanc," meddai.

Dan gynlluniau'r cyngor, bydd un clwb yn cael ei sefydlu ar gyfer plant 11-19 oed ar draws y sir, gyda gweithiwr ieuenctid yn gysylltiedig 芒 phob ysgol uwchradd.

Bydd y gwasanaeth presennol yn cau dros Y Pasg, ond does dim disgwyl i'r gwasanaeth newydd fod mewn lle nes mis Medi.

Yn 么l adroddiad, mae'r gwasanaeth presennol yn cyflogi 12 gweithiwr llawn amser a 100 o weithwyr rhan amser, tra byddai'r system newydd angen 19 swydd llawn amser a 21 rhan amser.