91热爆

Ffilm merched Ysgol Dyffryn Nantlle yn ennill gwobr

  • Cyhoeddwyd
Criw Ffilm SwynFfynhonnell y llun, Ben Gregory
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llwyddodd y criw i wneud y ffilm dros gyfnod hanner tymor yr Hydref

Mae criw o ferched ysgol o Wynedd wedi cipio gwobr mewn g诺yl ffilmiau yn Llundain ddydd Mawrth.

Roedd ffilm 'Swyn' gan ddisgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, wedi cyrraedd rhestr fer o dair yn seremoni Gwobrau Into Film ar gyfer y categori 12 oed ac iau.

Cafodd y ffilm ei chreu gan 11 merch - Becca, Begw, Betsan, Betsan, Danielle, Elan, Elsi, Gwenno, Llinos, Manon a Megan - dros wyliau hanner tymor yr Hydref, fel rhan o weithdai ffilm Dyffryn Nantlle 2020.

Llwyddodd y ffilm i guro cannoedd o ffilmiau eraill er mwyn ennill y wobr.

Hefyd yn fuddugol yn y gwobrau oedd Coleg Sir G芒r yn Llanelli, wnaeth ennill gwobr clwb y flwyddyn.

'Haeddu pob clod'

"Rydym yn ffodus iawn i gael mentor arbennig i'r grwpiau - Eilir Pierce, y gwneuthurwr ffilm," meddai Ben Gregory o Benygroes, un o'r trefnwyr.

"Ond yn y diwedd, y bobl ifanc sy'n ysgrifennu, saethu ac actio, ac maent yn haeddu pob clod am gynhyrchu ffilmiau gwreiddiol o safon uchel."

Roedd y ffilm eisoes wedi ennill y wobr Addewid yng Ng诺yl Ffilm PICS yng Nghaernarfon fis diwethaf.

Roedd y seremoni yn Llundain yn cael ei chynnal yn BFI Southbank.

Elusen Addysg Ffilm yw Into Film, ac mae'n gweithio gyda channoedd o ysgolion a grwpiau cymunedol pob blwyddyn.