91热爆

Fy stafell i: Bethan Gwanas

  • Cyhoeddwyd

Mae'r awdur Bethan Gwanas wedi ysgrifennu toreth o nofelau yn y stafell hon dros y blynyddoedd. Gyda byd natur yn ddylanwad mawr arni, mae'r olygfa trwy'r ffenest hefyd yn chwarae rhan fawr yn ei gwaith. Yma, mae Bethan Gwanas yn esbonio arwyddoc芒d y pethau sy'n bwysig iddi yn y stafell:

Ro'n i'n gwybod yn syth pan symudais i mewn i'r t欧 yma 18 o flynyddoedd yn 么l mai yn y ffenest yma ro'n i am sgwennu. Dwi 'di sgrifennu 33 o lyfrau hyd yn hyn a'r rhan fwya' ohonyn nhw fan hyn.

Mae hi mor ddwfn roedd yn rhaid i mi gael desg wedi ei chreu'n arbennig i ffitio. Y diweddar John Pugh o Bennal wnaeth hon. Roedd gan fy mrawd goed castanwydden, fe aethon ni 芒'r coed at John Pugh ac fe wnaeth y ddesg yma.

Fedrai ddim dychmygu gweithio yn unrhyw le arall.

Mae'r stafell yn llawn trugareddau, addurniadau a lluniau o Affrica.

Fe fues i'n byw yn Nigeria am ddwy flynedd yn dysgu Saesneg mewn ysgol uwchradd yno o 1984 i 1986. Gydag Affrica, unwaith mae o'n cael gafael arno ti dydy o ddim yn gadael.

Mae 'na rai addurniadau sy' wedi dod n么l o Affrica efo fi, ond dwi'n prynu nhw ymhob man hefyd. Dwi 'di prynu sawl peth yn y Steddfod, arlunwaith o Gaer a mae teulu a ffrindiau'n prynu pethau o dras Affricanaidd i mi o hyd.

Dwi 'di sgwennu'r llyfr Gwanas yn Gbara ac fe es i'n 么l i bentref Gbara lle fues i'n athrawes i ffilmio rhaglen i S4C. Roedd hynny'n brofiad arbennig.

Dwi'n edrych allan ar yr ardd o'r ddesg, sy'n ysbrydoli trwy'r amser. Bydd unrhywun sy' wedi darllen fy nofel Gwrach y Gwyllt yn adnabod y t欧 yma. Allet ti ddweud fod y t欧 yn gymeriad yn y llyfr hwnnw.

Rhai o'r llyfrau dwi 'di sgrifennu yn y stafell hon.

Mae fy ngor-nith a fy ngor-neiaint Cadi, Mabon a Caio wedi fy ysbrydoli lot. Cadi ydy'r cymeriad yn fy llyfrau Coeden Cadi a Cadi Dan y D诺r. Mae Mabon a Caio, a Ceri sy'n nith arall i mi hefyd yn ymddangos yn fy llyfrau. Maen nhw'n werth y byd. Mae 'na lot o hwyl pan maen nhw'n galw draw.

Dwi wrth fy modd efo sgwarnogod. Maen nhw i'w gweld ym mhob man o gwmpas y t欧 ac yn yr ardd. Mae rhywbeth yn hudol am y sgwarnog yn edrych fyny at y lloer. Mae pobl yn prynu clustogau a phethau efo sgwarnogod arnyn nhw yn anrhegion i mi.

Dwi 'di cadw'r llyfrau yma arwah芒n i'r gweddill. Mae rhain wedi creu argraff. Mae fwy nag un o nofelau'r diweddar Gareth F. Williams yma, mae ei waith yn fy ysbrydoli i.

Dwi'n sgwennu llyfrau, ond dwi hefyd yn dysgu Cymraeg i oedolion felly dwi'n paratoi, yn ateb e-byst a phopeth fan hyn.

Ffrind i mi, yr artist Carys Bryn, wnaeth ddarlunio'r llun yma o Del y ci. Mae'n golygu lot fawr i mi.

Mae Del wrth fy nhraed pan dwi'n gweithio, mae'n gwmni ac mae'n dweud wrtha' i pryd i stopio. Mae'n 'neud arwydd arna i i fynd allan - dwi'n beicio a mae hi'n rhedeg ar y gwair. Mae'n ffrind da i mi.

Hefyd o ddiddordeb: