Seren snwcer yn bwydo dyn digartref ar strydoedd Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r seren snwcer Ronnie O'Sullivan wedi cael ei weld yn prynu bwyd a diod i ddyn digartref oedd yn gorwedd yn yr eira yng Nghaerdydd.
Roedd y pencampwr byd yn gadael Arena Motorpoint wedi iddo golli yn rownd wyth olaf Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru ddydd Gwener.
Fe wnaeth y cefnogwr snwcer Matthew Lofthouse ei weld yn siarad gyda'r dyn, cyn mynd i siop gyfagos a phrynu brechdanau a diod iddo.
Dywedodd Mr Lofthouse, 23, sydd yn wreiddiol o Fanceinion ond yn astudio ym Mhrifysgol De Cymru: "Fe wnaeth Ronnie fynnu nad oedd y dyn yn dweud diolch iddo."
Roedd y tymheredd yn tua -2C ar y pryd, a hynny wedi diwrnod ble wnaeth eira trwm ddisgyn ar draws rhannau helaeth o dde Cymru.