Dros 2,500 wedi eu dal yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae mwy na 2,500 o fodurwyr yng Nghymru wedi cael eu dal yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau ers i bwerau newydd gael eu cyflwyno i'r heddlu dair blynedd yn 么l.
Cafodd y mwyafrif o'r gyrwyr eu stopio gan Heddlu Gogledd Cymru, gyda 1,029 o bobl yn cael eu harestio gan y llu.
Roedd gofyn i'r gyrwyr oedd yn cael eu hamau o droseddu i gymryd prawf cyffuriau ar ochr y ffordd.
Yng ngweddill Cymru, fe arestiodd Heddlu Gwent 662 o yrwyr, Heddlu De Cymru 575 a Dyfed-Powys 262.
Ers i'r gyfraith newid ym Mawrth 2015, nid oedd yn rhaid i'r heddlu bellach brofi bod gyrwyr oedd wedi cymryd cyffuriau yn anghymwys i yrru.
Dim ond canabis a choc锚n
Ers i'r ddeddf ddod i rym, mae gyrwyr yn wynebu cael eu herlyn os ydynt yn profi'n bositif am gyffuriau anghyfreithlon, ond ar hyn o bryd dim ond olion canabis a choc锚n, ac wyth o gyffuriau presgripsiwn, sy'n bosib eu darganfod drwy ddefnyddio'r prawf profi ochr y ffordd.
Dywedodd Joshua Harris, cyfarwyddwr ymgyrchoedd Brake, yr elusen diogelwch ar y ffyrdd, fod hyn yn cyfyngu ar sg么p profion ochr y ffordd.
"Ar hyn o bryd, dim ond canabis a choc锚n sy'n bosib eu darganfod gyda'r profion sy'n cael eu defnyddio, ac mae hyn yn cyfyngu ar allu'r heddlu i ganfod pobl sy'n gyrru ar 么l defnyddio cyffuriau." meddai.
"Rhaid i'r llywodraeth flaenoriaethu datblygu dyfeisiau sgrinio ar ochr y ffordd a all ganfod pob cyffur gwaharddedig a chynyddu lefelau plismona ar y ffyrdd i atal troseddu."
Mae ystadegau yn amcangyfrif fod hyd at 200 o bobl yn marw ar y ffyrdd ym Mhrydain bob blwyddyn o ganlyniad i yrru dan ddylanwad cyffuriau.
Caiff modurwyr sy'n profi'n bositif ar ochr y ffordd eu harestio a'u gorfodi i roi prawf gwaed pellach mewn gorsaf heddlu.
Os bydd gyrwyr yn cael eu canfod yn euog, maen nhw'n wynebu gwaharddiad gyrru am o leiaf 12 mis, hyd at chwe mis yn y carchar, a dirwy drom.
Dywedodd y Sarjant Huw O'Connell o Uned Blismona Ffyrdd Heddlu De Cymru: "Mae pobl yn dod yn fwy ymwybodol o'r prawf ac mae'n anfon neges adref i bobl sy'n gyrru dan ddylanwad cyffuriau."
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth eu bod yn gweithio i addysgu pobl am beryglon gyrru ar 么l cymryd cyffuriau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2015
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2017