91热爆

Eisteddfod i 'dalu am unrhyw ddifrod' i dir gwersylla

  • Cyhoeddwyd
Eisteddfod 2008
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'n rhaid gwario miloedd o bunnau ar adfer caeau chwarae Pontanna yn dilyn ymweliad y Brifwyl yno yn 2008

Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud mai'r brifwyl fydd yn talu os bydd yna ddifrod i gaeau Pontcanna yng Nghaerdydd ym mis Awst eleni.

Roedd Elfed Roberts yn ymateb i bryderon yn lleol yngl欧n 芒 gosod y maes carafannau a'r maes ieuenctid yno.

Roedd yna ddifrod sylweddol wedi i'r

Y tro hwn, y maes carafannau a'r maes ieuenctid yn unig fydd yno, tra bod y Maes ei hun yn y Bae.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd preswylwyr Pontcanna gyfle i edrych ar gynlluniau'r Brifwyl ar gyfer y caeau yn ystod cyfarfod nos Fawrth

Mewn cyfarfod ym Mhontcanna ddydd Mawrth, roedd yna gyfle i bobl leol drafod eu pryderon gyda swyddogion yr Eisteddfod.

Dywedodd criw bychan eu bod yn poeni am y difrod posibl, ar 么l y llanast a gafodd ei achosi yn ystod mis Awst 2008.

Yn 么l Nerys Lloyd-Pierce sy'n byw yn lleol, doedd dim modd defnyddio'r caeau chwarae am ddwy flynedd wedi i'r Brifwyl fod yno.

, a hynny yn dilyn cytundeb rhwng trefnwyr y Brifwyl a Chyngor Caerdydd.

Wrth ymateb i sylwadau'r rheiny a ddaeth i'r cyfarfod nos Fawrth dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, nad oedd modd lleddfu ofnau'n llwyr ond y byddai'r Eisteddfod yn "llawer iawn llymach nag arfer" wrth adael i geir fynd a dod o'r maes carafannau eleni a phe byddai yna ddifrod, yr Eisteddfod fyddai'n talu.

Ffynhonnell y llun, Gorsedd.Cymru

"Nid ar chwarae bach benderfynon ni ddod i gaeau Pontcanna" meddai.

Dywedodd Cyngor Caerdydd y bydd yr hyn sy'n digwydd ar gaeau Pontcanna ym mis Awst yn wahanol iawn i'r hyn oedd yno ddeng mlynedd yn 么l.