Darlithwyr yn streicio dros newid i'w pensiynau
- Cyhoeddwyd
Bydd darlithwyr a staff Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) yn streicio ddydd Iau yn y diwrnod cyntaf o 14 o ddyddiau o weithredu diwydiannol mewn anghydfod am bensiynau.
Mae staff o Brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Phrifysgol Cymru - ynghyd 芒 57 o brifysgolion eraill ar draws y DU - yn mynd ar streic, gyda'r undeb yn dweud fod cynrychiolwyr o'r prifysgolion wedi gwrthod trafod ymhellach gyda nhw.
Mae'r staff yn flin oherwydd newid i'w cynllun pensiwn o un sy'n rhoi gwarant o incwm ar 么l ymddeol i un lle bydd eu cyfraniadau'n gallu newid gan ddibynnu ar farchnadoedd masnach.
Fe ddywedodd yr undeb y bydd y streic yn effeithio ar fwy na 60,000 o fyfyrwyr yng Nghymru.
Gweithredu pellach
Dydy'r streic ddim yn effeithio ar Brifysgol Abertawe, gan fod llai na 50% o aelodau'r undeb yno wedi bwrw pleidlais, , fel sy'n ofynnol yn 么l y rheolau.
Dydy'r newidiadau ddim chwaith yn effeithio ar sefydliadau sydd wedi derbyn statws prifysgol ar 么l 1992, neu sy'n rhan o gynllun pensiwn gwahanol.
Mae dyddiau'r streic fel a ganlyn:
Wythnos 1 - dydd Iau a dydd Gwener (22 a 23 Chwefror);
Wythnos 2 - dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher (26, 27 a 28 Chwefror);
Wythnos 3 - dydd Llun i ddydd Iau (5-8 Mawrth);
Wythnos 4 - dydd Llun i ddydd Gwener (12-16 Mawrth).
Mae'r UCU yn dweud y byddan nhw'n cyfarfod ar 2 Mawrth i ystyried ymateb y prifysgolion i ran gyntaf y gweithredu, a pha weithredu pellach fydd angen.
Mae undeb arall, Unsain, wedi cefnogi'r streic, ond mae'r farn ymhlith myfyrwyr yn gymysg.
Ym Mangor mae myfyrwyr wedi datgan eu cefnogaeth i'r darlithwyr, ac mae AS Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams wedi eu cefnogi nhw.
Dywedodd Mr Williams: "Yr hyn sy'n fy mhoeni i fwyaf yw'r ergyd y bydd staff unigol yn cael eu gorfodi i gymryd ac effaith hyn ar for芒l staff a'r gallu i ddal gafael ar staff heb s么n am yr effaith ar fyfyrwyr.
"Bydd y toriadau yma hefyd yn gwahaniaethu ar sail oedran. Bydd y rheiny sydd yn agos at oedran ymddeol yn debygol o ddioddef llai na darlithwyr iau, ar gychwyn eu gyrfa a fydd yn wynebu ansicrwydd yn eu hymddeoliad.
"Mae prifysgolion yn gwbl annibynnol o'r llywodraeth. Ond mae'r mater hwn mor ddifrifol fy mod yn credu bod rhaid i'r llywodraeth ganolog gamu i mewn, i ddarparu arweiniad polisi ac, os oes angen, yr adnoddau sydd eu hangen i ddatrys yr argyfwng."
Ond yng Nghaerdydd mae myfyrwyr wedi llunio deiseb sydd eisoes wedi casglu miloedd o enwau yn galw ar y brifysgol yno i ddigolledu myfyrwyr.
Dadl y myfyrwyr yw eu bod yn talu ff茂oedd am eu cyrsiau, ac os na fydd darlithoedd na thiwtoriaid ar gael am gyfnod sylweddol yna fe ddylen nhw gael arian yn 么l.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi datgan bod eu holl gampysau ac adeiladau ar agor, gan gynnwys eu llyfrgelloedd, canolfan chwaraeon a Chanolfan y Celfyddydau.
Wedi dweud hynny, mae rhywfaint o ddysgu wedi ei ganslo o ganlyniad i'r gweithredu, a dywedd llefarydd fod "mesurau amgen yn cael eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau nad yw myfyrwyr o dan anfantais".
Mewn rhannau eraill o'r DU, mae rhai prifysgolion eisoes wedi gwrthod hyn gan ddweud bod termau ac amodau'r brifysgol yn dweud yn glir na fydd digolledu am y rheswm yma.