91热爆

Ble maen nhw nawr? Cyflwynwyr rhaglenni plant

  • Cyhoeddwyd

Eleni, mae gwasanaeth Cyw yn 10 oed. Ond beth am y rhaglenni a'r cyflwynwyr oedd yn diddanu plant Cymru cyn i'r gwasanaeth gychwyn? Mae Cymru Fyw wedi holi rhai a fu'n serennu ar y sgrin i genedlaethau o blant cyn dyddie Cyw, Plwmp, Bolgi a'u ffrindiau...

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mair Rowlands ac Elfed Dafis, dau o nifer o gyflwynwyr y gyfres Ffalabalam, ble ymddangosodd cymeriadau fel Huwcyn, Sara, Bwni Binc a Meical y Mwnci

Elfed Dafis

Fy swydd gynta' oedd cyflwyno Ffalabalam ar HTV, yn 1982.

Ro'n i wedi bod yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd ac yn chwilio am waith, a dwi'n cofio cael y clyweliad. Yn stiwdios HTV ym Mhontcanna, Caerdydd oedden ni'n gwneud Ffalabalam, ond stad o dai sydd yno erbyn heddiw!

Ro'n i yno o 1982 hyd 1989 ac roedd yn waith difyr iawn, mewn cyfnod diddorol ym myd teledu Cymraeg. Erbyn y 1990au ro'n i'n gofalu am y cymeriad Wcw ar nifer o raglenni fel T欧 Chwith a Slot Meithrin.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Wcw ac Elfed Dafis

Roedd llawer yn meddwl efo Ffalabalam mai dim ond siarad 芒 theganau oedden ni ond roedd 'na lawer o waith dysgu sgriptiau ac ati, roedden ni'n recordio tair neu bedair rhaglen mewn diwrnod. Roedd yn waith caled ac yn ddisgyblaeth dda iawn. Ar 么l cyflwyno rhaglenni plant es i 'mlaen i gyflwyno'r Tywydd ar S4C.

Erbyn hyn dwi'n gyfrifol am sain-ddisgrifio, sef y gwasanaeth i'r deillion ar raglenni Cymraeg. Rydan ni'n paratoi'r sgriptiau, recordio a lleisio, ac yn llenwi'r bylchau gan ddisgrifio beth sydd i'w weld yn digwydd ar y sgrin.

Nia Dafydd

Fy swydd gynta' i oedd cyflwyno Slot 23 gyda Daniel Glyn yn fyw bob dydd, roedd hwnna'n lot o sbort. Wedyn es i 'mlaen i gyflwyno Slot Sadwrn yn fyw ar foreau Sadwrn cyn mynd ymlaen at Uned 5 gyda Gaynor Davies a Garmon Emyr am bum mlynedd. Fe fues i'n cyflwyno rhaglenni oedolion wedyn fel Y Sioe Gelf, Heno a Prynhawn Da.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nia Dafydd, Garmon Emyr a Gaynor Davies ar gychwyn dyddiau Uned 5

Fe es i mewn i gynhyrchu rhaglenni plant yn 2003, o'n i'n cynhyrchu Planed Plant yn y cyfnod pan oedd Branwen Gwyn, Alun Williams, Rhydian Bowen Phillips ac Elen Pencwm yn cyflwyno.

Ers hynny rwy' wedi bod yn cynhyrchu rhaglenni Stwnsh, fe wnes i lansio Tag ac ar hyn o bryd rydyn ni'n paratoi i ddod 芒 rhaglen fyw yn 么l ar fore Sadwrn. Fe fydd Stwnsh Sadwrn ar ei newydd wedd yn dod n么l ar Chwefror 24 gydag Owain Williams a Mari Lovgreen yn cyflwyno.

Dwi mwy neu lai wedi gweithio ar deledu byw trwy gydol fy ngyrfa, dwi'n caru'r buzz ac adrenalin, a'r teimlad 'na fod dim troi n么l.

Pan o'n i'n cyflwyno, o'n i'n teithio cymaint o gwmpas Cymru ac yn cyfarfod 芒'r genedl, roedd yn gyfnod cyffrous yn y dyddiau cynnar ac o't ti'n teimlo ar gae y Steddfod dy fod ti mor enwog!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyflwynwyr Planed Plant: Lowri Morgan, Martyn Geraint, Catrin Mai, Lisa Gwilym, Rhydian Bowen Phillips, Sarra Elgan, Bedwyr Rees, Elen Pencwm, Branwen Gwyn

Elen Pencwm

Dechreues i gyflwyno Planed Plant tua ugain mlynedd yn 么l, ro'dd e'n gyfnod cyffrous achos oedden ni'n d卯m newydd sbon o gyflwynwyr. Ro'n i 'di graddio o Goleg y Drindod yng Nghaerfyrddin ac yn aros am yr amser 'na yn fy mywyd i ddod. O'n i wastad wedi eisie cyflwyno.

Do'n i ddim yn dod o deulu o bobl yn y cyfryngau, ac achos ei fod yn rhywbeth newydd o'n i'n ei werthfawrogi fe. Mi oedd y profiad yn bopeth o'n i 'di ddymuno iddo fe fod, mae rhai o'r criw 'na yn dal i fod yn ffrindiau agos hyd heddi.

Rwy' wedi bod yn gweithio'n llawrydd ers blynydde, yn sgriptio rhaglenni a gwneud gwaith radio a theledu, ond beth oedd yn bwysig i fi oedd dod gartre i gefn gwlad i fyw. Fe gymeres i amser o'r gwaith i fagu'r bechgyn, mae gen i ddau fab sy'n 10 ac wyth oed ac o'dd e'n bwysig i fi i ddod n么l i Llanfihangel y Creuddyn lle mae'r gymuned yn gl貌s a phawb yn 'nabod pawb.

Efallai y bydd gwylwyr Cyw yn nabod fy nghartre i - yn fferm Hafod Haul [un o raglenni Cyw] dwi'n byw. Fe wnes i gynhyrchu 52 o raglenni gafodd eu ffilmio yn y t欧 ac ar y ffarm. Dim ond y ci oedd yn broffesiynol, ein anifeiliaid ni yw'r lleill... o'dd 'na fochyn yn y gegin a gafr ar y soffa... o'dd Hafod Haul yn brosiect mawr.

O'dd pobl yr ardal ynghlwm 芒'r rhaglen gan roi menthyg anifeiliaid i ni ac yn actio'r ecstras. Fi'n gefnogol iawn i gefn gwlad, dwi'n gweithio lot gyda'r ffermwyr ifanc ac yn falch o gael y cyfle i roi rhywbeth n么l i'r gymuned.

Bedwyr Rees

Do'n i erioed ag uchelgais i fod yn gyflwynydd mewn gwirionedd, be' o'n i'n ei fwynhau oedd sgwennu'r sgetsys a'r sgriptiau. Fe fues i'n gweithio am tua tair blynedd ar Planed Plant ac Uned 5 o 1998 i 2001.

Roedd fy mryd i ar fod tu n么l y camera, ac erbyn 2001 o'n i'n sgwennwr llawrydd. Am tua naw mlynedd fues i'n sgriptio'r gyfres deledu Xtra, sgwennu nofelau byrion i blant, cwestiynau i gwisys, sgriptio Rownd a Rownd ac ati.

Er mod i wedi cyflwyno ychydig yn y blynyddoedd diwetha', cynhyrchu ydw i erbyn hyn, yn gweithio ar raglenni fel Cynefin, Darren Drws Nesa' a Rownd a Rownd.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elen Pencwm, Bedwyr Rees a Branwen Gwyn yn nyddiau Planed Plant ac Uned 5

Branwen Gwyn

O'n i'n gwbod mod i eisiau gweithio ym myd teledu ac yn syth ar 么l graddio weles i hysbyseb yn y Western Mail am gyflwynwyr newydd ac o'n i'n meddwl bod hyn fod i ddigwydd.

Ond roedd fy niwrnod cynta' yn y job yn hunllef. Roedd rhaid i fi wneud assault course militaraidd trwy fwd ar fferm ger Abertawe. O'n i'n cas谩u pob munud ac yn trio'n galed i beidio llefain, ond wnaeth pethe wella ar 么l y diwrnod cynta' a ges i cymaint o gyfleoedd.

Y cyflwynwyr eu hunain oedd yn sgriptio popeth, roedd yn lot o waith ond roedd pob diwrnod yn wahanol, yn 'neud sialensau, sgetsys, gwisgo lan ac ati.

Erbyn hyn, rwy'n gwneud lot o waith i Cyw yn sgriptio rhaglenni fel Do Re Mi Dona a Jen a Jim, sioe Cyw yn Eisteddfod yr Urdd ac rwy' wedi bod yn sgwennu lot o eiriau caneuon Cyw dros y blynyddoedd diwetha' hefyd.

Mae gen i atgofion melys o wylio rhaglenni plant pan o'n i'n fach. Mae gen i rhyw gof o wylio Si芒n Thomas yn cyflwyno Y Clwb ac o'n i 'di anfon llun i mewn a chafodd ei ddangos ar y teledu, o'n i'n mor chuffed!

Hefyd o ddiddordeb: