91热爆

Problemau mawr gyda chyfrifiaduron y Gwasanaeth Iechyd

  • Cyhoeddwyd
trafferthion technoleg y GIG
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer o feddygon teulu yn adrodd eu bod yn methu cael mynediad i gofnodion cleifion

Bu trafferthion mawr gyda systemau cyfrifiadurol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru ddydd Mercher.

Mae nifer o feddygon teulu yn adrodd eu bod yn methu cael mynediad i gofnodion cleifion am rai oriau.

Y gred yw bod gwasanaethau mewnol ac e-bost wedi eu heffeithio hefyd.

Mae'r Ganolfan Ddiogelwch Seibr Genedlaethol yn dweud mai materion technegol oedd wedi achosi'r trafferthion, ac nid ymosodiad seibr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gwasanaeth technoleg gwybodaeth GIG Cymru wedi cadarnhau bod yr holl systemau bellach yn gweithio fel arfer, ond efallai bydd 么l-groniad yn effeithio ar rai meysydd.

"Maen nhw wedi ein sicrhau nad oedd hwn yn achos o ddiogelwch data (ymosodiad seibr) ac mae achos y broblem dechnegol wnaeth effeithio ar ddwy ganolfan ddata GIG Cymru yn dal yn destun ymchwiliad."

'Llanast'

Mae Cymdeithas Feddygol y BMA yng Nghymru, sy'n cynrychioli meddygon, hefyd wedi cadarnhau bod problem wedi bod gyda chyfrifiaduron y GIG.

Dywedodd Dr Alan Woodall, meddyg teulu a chadeirydd GP Survival UK: "Dydw i na fy nghydweithwyr yn gallu cael mynediad at gofnodion cleifion, sy'n lleihau ein gallu i ddarparu gofal yn ddifrifol."

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n gweithio ar achosion brys yn unig - yng nghanol pwysau'r gaeaf a'r ffliw bydd hyn yn cael effaith anferth os yw'n parhau."

Dywedodd meddyg arall o feddygfa yn ardal Abertawe Bro Morgannwg: "Mae'n llanast, alla' i ddim gwneud unrhyw beth.

"Dwi angen y system yma ar gyfer popeth."

Mae ymgynghorydd yn Ysbyty Treforys, Abertawe wedi dweud wrth y 91热爆 nad yw'n gallu gweld canlyniadau profion gwaed na phelydr-X ar ei gyfrifiadur gan nad ydy'r system fewnol yn gweithio.

Fe gychwynnodd y trafferthion ganol bore Mercher yn 么l uwch-ymgynghorydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant.

Yn 么l gwefan Gwasanaeth Wybodaeth GIG Cymru, dwy ganolfan ym Mlaenafon a Bae Caerdydd sy'n ymdrin 芒 gwasanethau cyfrifiadurol y GIG.

Dywed y wefan bod "cadw data mewn dau leoliad, yn hytrach na nifer, yn gwella effeithlonrwydd a diogelwch ac yn lleihau costau".