91热爆

Ansicrwydd stondinwyr am leoliadau Eisteddfod Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
bae caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does dim cadarnhad eto yn union pa safleoedd ym Mae Caerdydd fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer yr Eisteddfod

Mae swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud eu bod yn parhau i drafod yr union leoliadau fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer Prifwyl Caerdydd eleni.

Daw hynny wrth i rai stondinwyr ddweud wrth Newyddion 9 eu bod yn aros i glywed rhagor o fanylion am ble fyddan nhw'n cael eu gosod cyn penderfynu a yw hi'n werth treulio'r wythnos yno.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts y bydd eleni'n 诺yl wahanol iawn i'r arfer ac felly bod y trefniadau wedi bod yn fwy "cymhleth".

Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Bae Caerdydd yn cael ei chynnal rhwng 3 ac 11 Awst, fel rhan o arbrawf gyda Phrifwyl heb faes traddodiadol.

'Dim eisiau cornel dawel'

Mae disgwyl i'r pafiliwn gael ei leoli yng Nghanolfan y Mileniwm yn y Bae, ac fe fydd Y Lle Celf wedi ei leoli yn adeilad y Senedd.

Ond dyw'r cynllun terfynol, a lleoliad nifer o gyrchfannau eraill fel Maes B, y maes pebyll, y meysydd parcio, y Babell Len a'r stondinau dal heb gael eu cadarnhau.

Y tro diwethaf i'r Brifwyl ymweld 芒'r brifddinas yn 2008 cafodd y maes ei leoli ar gaeau Pontcanna, ond er bod Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn y Bae fwy nag unwaith dyw'r Genedlaethol heb.

Mae'r ansicrwydd yn golygu fod hyd yn oed rhai o stondinwyr mwyaf selog yr Eisteddfod Genedlaethol, fel Angharad Gwyn, ddim yn si诺r a fyddan nhw'n mynychu ai peidio.

Disgrifiad,

Angharad Gwyn: "Mae'n gwneud i mi ddal n么l rhag penderfynu"

"Yn sicr er mwyn gwneud penderfyniad... dwi'n meddwl bod fi angen mwy o wybodaeth gan y Steddfod yngl欧n 芒 lle'n union mae'r stondinau 'ma yn mynd i fod," meddai perchennog busnes nwyddau Adra ym Mharc Glynllifon.

"Tydw i ddim isio bod mewn cornel dawel o'r maes fel petai."

Mae'r un ansicrwydd yn wynebu Catrin ac Emyr Thomas, sydd fodd bynnag wedi cael gwybod mai'r "tebygolrwydd" yw mai ar gaeau Pontcanna y byddan nhw'n treulio eu hwythnos yn y maes carafanau.

"Mae si诺r o fod yn anodd i drefnu yn y ddinas safle carafanau i'r holl bobl, felly falle bod e'n cymryd mwy o amser wedyn i drefnu lle," meddai Catrin Thomas.

'Jig-so'

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts eu bod ar ganol "y trefniadau olaf" ar hyn o bryd, a bod disgwyl i'r stondinau a safleoedd caraf谩n fod ar gael erbyn Dydd G诺yl Dewi.

"Gyda chyfuniad o adeiladau parhaol a strwythurau dros dro, mae'r gwaith o lunio'r maes yn fwy o jig-so eleni na'r arfer, gan fod nifer o berchnogion tir ac mae'n rhaid cael caniat芒d o wahanol gyfeiriadau, sy'n fwy cymhleth na llunio'r maes arferol ar un darn o dir amaethyddol," meddai.

"Dyw Bae Caerdydd ddim yn sgwaryn gwag o dir sydd ar gael am fisoedd ymlaen llaw.

"Felly mae'n rhaid cynllunio'r maes o amgylch adeiladau sydd eisoes yn bodoli, ynghyd 芒 sicrhau nad ydym yn effeithio gormod ar lif traffig a thrigolion lleol, wrth greu maes deniadol, hawdd ei grwydro sy'n mynd i apelio at ein hymwelwyr selog a denu ymwelwyr newydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Maes yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ynys M么n yn 2017 - ar gae ychydig yn fwy traddodiadol na'r un fydd yn cael ei ddefnyddio yng Nghaerdydd

Ychwanegodd: "Rydym yn mawr obeithio y bydd arbrawf yr Eisteddfod drefol yn apelio at ymwelwyr."

Dywedodd Cyngor Caerdydd nad oes oedi yn y broses o gadarnhau lleoliadau ar gyfer y Brifwyl, ac y bydd swyddogion yr Eisteddfod yn gwneud y cyhoeddiad pan fyddan nhw'n barod.