Marwolaeth Tryfan: Teyrnged i 'berson arbennig'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn a fu farw ar fynydd Tryfan ddydd Sul wedi rhoi teyrnged i "berson arbennig oedd yn gerddor, yn anturiaethwr, yn ffrind i bawb".
Bu farw Iwan Pritchard Huws, 34 oed o Glogwyn Melyn, Dyffryn Nantlle, oedd yn gerddwr profiadol, mewn digwyddiad ar fynydd Tryfan.
Aeth tua 40 o wirfoddolwyr achub mynydd allan dros nos ar 么l derbyn galwad fod person wedi mynd ar goll ar y mynydd ddydd Sul.
Ond doedd dim modd iddyn nhw ddefnyddio hofrennydd achub i'w cynorthwyo oherwydd y tywydd garw.
Aelod o Yucatan
Cafodd corff Mr Huws ei ganfod am tua 10:30 fore Llun ar waelod ceunant ger ochr orllewinol y mynydd, ac fe aeth y timau achub mynydd ati i gasglu'r corff.
Mae teulu Mr Huws wedi rhyddhau datganiad yn diolch i'r timau achub mynydd am eu hymdrechion.
"Buasem ni'n hoffi diolch o waelod calon i'r criw t卯m achub mynydd am ei holl ymdrechion wrth chwilio am Iwan.
"Roedd Iwan yn berson arbennig iawn, yn gerddor, yn anturiaethwr, yn ffrind i bawb."
'Anodd credu'
Yn 么l y teulu roedd yn mwynhau teithio ac roedd wedi "trafeilio'r byd, wedi cerdded yr Inca trail i Machu Picchu, seiclo o Amsterdam i'r Swistir ac ym mis Tachwedd fe gerddodd yr Annapurna Trek yn yr Himalayas yn Nepal."
Roedd Mr Huws yn ddrymiwr yn y band Yucatan ac wedi ailymuno yn 2017 ar 么l cyfnod i ffwrdd yn teithio'r byd.
Dywedodd Dilwyn Llwyd o'r band ei fod yn "cydymdeimlo'n fawr gydag Elin (partner Iwan) a'r holl deulu ar yr adeg anodd yma."
Ychwanegodd: "Roedd Iwan wedi ymuno efo Yucatan dwywaith fel drymiwr. Y tro cyntaf yn 2010 cyn iddo adael am gyfnod er mwyn mynd i deithio'r byd.
"Fe wnaeth ail ymuno llynedd ac fe chwaraeodd yng Ng诺yl Rhif 6, Yr Eisteddfod, Neuadd Ogwen ac roeddem wedi cefnogi 'The Charlatans' yng Nghaerdydd mis diwethaf.
"Mae'n anodd credu'r peth... mi fydda i ac aelodau'r band i gyd yn ei golli'n fawr," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2018