Angen 'chwyldro' brys ar wasanaethau iechyd a gofal
- Cyhoeddwyd
Mae angen "chwyldro" brys ar y ffordd mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu yng Nghymru, yn 么l adolygiad.
Fel rhan o adolygiad cynhwysfawr o ddyfodol gwasanaethau mae'r arbenigwyr yn rhybyddio oni bai fod newidiadau sylweddol yn digwydd yn gyflym, fe allai gwasanaethau sydd eisioes yn cael trafferth ymdopi ddirywio ymhellach.
Mae'n nhw'n dweud bod rhaid i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol gyd-weithio'n well gyda'i gilydd wrth ymateb i ofynion cleifion, ac i ddarparu gofal yn agosach at y cartref.
Mae gweinidogion wedi dweud byddai cynllun newydd yn ystyried argymhellion y panel.
Naw arbenigwr blaenllaw sydd wedi bod yn ystyried sut i roi sylfaen gadarnach i'r system iechyd a gofal cymdeithasol, dan arweiniad y cyn-swyddog meddygol Dr Ruth Hussey.
Mae rhai o'r 10 argymhelliad yn cynnwys:
Symud adnoddau i ffwrdd o ysbytai mawr, buddsoddi mewn technoleg newydd a rhoi mwy o ddewis i gleifion yngl欧n 芒'r gofal yr hoffen nhw ei gael;
Gwneud mwy i ddiogelu lles rhai sy'n gweithio mewn iechyd a gofal;
"Dulliau mwy soffistigedig" o wrando ar gleifion gan rannu'r broses o wneud penderfyniadau gyda'r unigolion dan sylw;
Adeiladu ar welliannau ar lefel leol "gydag unigolion brwdfrydig sydd wedi eu hynysu o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth a chyfeiriad".
Ond maen nhw'n rhybuddio fod gormod o ffocws yn cael ei roi ar dargedau cul ysbytai, yn hytrach nac ystyried y darlun cyflawn.
Maen nhw eisiau cynllun trawsnewid cenedlaethol er mwyn cyflawni'r newidiadau.
Ond mae'r panel yn rhybuddio "na fydd hi'n hawdd" a byddai'n cynnwys "her enfawr i arweinyddiaeth... ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol".
Heb weithredu'n "gyflym" byddai mynediad at wasanaeth o safon yn gostwng o fewn y pum mlynedd nesaf, meddai'r panel.
Dywedodd Dr Hussey nad oes modd tanseilio maint y dasg sydd yn ei wynebu.
"Mae'n gwbl glir fod angen newid ac yn gliriach fyth y dylai hyn ddigwydd yn gyflym," meddai.
"Rydym wedi synhwyro'r angen am newid a'r bwriad i fwrw ymlaen. Mae angen ymrwymiad cadarn i drawsnewid nid dim ond faint sy'n cael ei wneud, ond sut a phryd fyddai'n digwydd."
'Ystyried yn ofalus'
Daw'r adroddiad yn dilyn canfyddiadau dros dro a gafodd eu cyhoeddi yn ystod haf 2017, oedd yn galw am newid yn sgil oedran y boblogaeth.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething byddai'n "ystyried yn ofalus" y canfyddiadau cyn y bydd cynllun hir dymor ar gyfer y GIG yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn.
"Dwi'n credu bydd yr hyn rydym wedi'i weld heddiw gan y panel yn gosod seiliau cadarn ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru am flynyddoedd i ddod," meddai.
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Cadeirydd Comisiwn Bevan, Helen Howson: "Ni fyddwn ni'n gallu fforddio gwneud y newidiadau.
"Pan mae pobl yn cael eu herio yngl欧n 芒'u targedau, am eu hadnoddau a'r gofynion uchel sydd ar y system, rydych yn gallu deall pam ein bod yn y sefyllfa bresennol."