Ffliw: Cyfyngu ar ymwelwyr i Ysbyty Maelor Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Ysbyty Maelor Wrecsam wedi gosod cyfyngiadau ar bobl sy'n gallu ymweld 芒'r ysbyty yn dilyn cynnydd yn nifer y cleifion sy'n cael triniaeth am effeithiau'r ffliw.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y bydd y cyfyngiadau'n lleihau'r risg fod y ffliw yn lledu yn yr ysbyty.
Ychwanegodd llefarydd bod cynnydd ledled y gogledd yn y nifer sy'n cael eu trin mewn ysbytai am effeithiau'r ffliw. ond Maelor yw'r unig un hyd yma sydd wedi gosod cyfyngiadau.
Mae'r gwaharddiad yn golygu mai dim ond ymweliadau angenrheidiol fydd yn cael eu caniat谩u.
Mae galw hefyd ar bobl sydd wedi bod yn teimlo yn s芒l gyda symptomau tebyg i ffliw yn ystod y saith diwrnod diwethaf i beidio ag ymweld ag ysbytai oni bai ei fod yn angenrheidiol.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Fe ddylai pawb sy'n ymweld 芒'n hysbytai ddilyn cyfarwyddiadau sy'n cael eu rhoi, er mwyn eu diogelwch eu hunain ac er mwyn atal y firws rhag lledu.
"Mae'r ffliw yn bresennol yng nghymunedau ledled y gogledd a bydd ein mesurau yn ei helpu rhag lledaenu a chadw ein cleifion a'n staff yn ddiogel."
Mae modd i bobl wylio am symptomau drwy ymweld 芒 gwefan neu ffonio 0845 46 47.