91Èȱ¬

Atal ymosodiadau grwpiau asgell dde eithafol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
FflagiauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae grwpiau "risg uchel" asgell dde eithafol wedi cael eu hatal rhag cyflawni ymosodiadau treisgar yng Nghymru yn y tair blynedd diwethaf, yn ôl ymgynghorydd i'r Swyddfa Gartref.

Roedd un dyn o Gasnewydd yn paratoi am "ryfel hil" drwy wneud a phrofi ffrwydron mewn chwarel.

Dywedodd Nick Daines, sy'n gweithio i gynllun gwrth derfysgaeth Llywodraeth y DU, Prevent, fod Cymru â "thirwedd unigryw" wrth ystyried eithafiaeth asgell dde, ond bod nifer yr aelodau yn fychan.

Mae heddlu gwrth derfysgaeth wedi dweud eu bod yn neilltuo cymaint o amser i eithafiaeth asgell dde yng Nghymru ag y maent i eithafiaeth Islamaidd.

Dywedodd un o sylfaenwyr y grŵp treisgar neo-natsïaidd Combat 18, Nick Bromage, fod Cymru yn draddodiadol yn "leoliad saff" ar gyfer yr asgell dde eithafol, i ffwrdd o'r awdurdodau.

Mae nawr yn gweithio i wynebu'r asgell dde eithafol drwy ei sefydliad, Small Steps.

Ysgogi trais

Dywedodd fod grwpiau megis y National Front wedi ceisio ymyrryd mewn achosion fel streic y glowyr yn y 1980au i geisio lledaenu eu hideoleg.

"Roedd De Cymru yn cael ei weld, nid yn unig fel lleoliad i i fynd i gefnogi'r glowyr, drwy gynnig bwyd a diod ar y llinell biced, ond roedd hefyd yn gyfle i agor allan a chefnogi pethau eraill," meddai.

Dywedodd Mr Bromage nad oedd y grwpiau yn ysgogi trais i ddechrau, na chwaith ideolegau Natsïaidd gan eu bod yn gwybod buasai pobl Cymru yn gwrthod hynny.

Mae'r tactegau'n "broses araf", meddai, ac mae'n credu bod yr un tactegau yn parhau i gael eu defnyddio gan grwpiau asgell dde yng Nghymru heddiw.

Mae ei sefydliad nawr yn dechrau cynnal sesiynau yng Nghymru i geisio addysgu pobl ynglŷn â pheryglon yr asgell dde eithafol.

Disgrifiad o’r llun,

Nick Bromage sefydlodd grŵp neo-natsïaidd Combat 18, ond mae nawr yn gweithio i atal eithafiaeth

Mae ffigyrau'r Swyddfa Gartref yn dangos mai dim ond 2% o'r rheiny sydd wedi cael eu cyfeirio at gynllun Prevent sy'n Gymry - y ffigwr isaf o unrhyw ranbarth yn y DU.

Ond o'r rheiny, roedd 22% ohonynt am achosion o eithafiaeth asgell dde - y ganran uchaf yn y DU.

'Cadarnleoedd'

Mae Mr Daines yn gweithio gyda phobl o Gymru sydd dan fygythiad, neu sydd wedi cael eu radicaleiddio.

Dywedodd fod enghreifftiau o lefydd yng nghymoedd de Cymru yn parhau'n "gadarnleoedd" i'r asgell dde eithafol, sy'n cyfrannu at dirwedd "unigryw" Cymru.

Ychwanegodd fod meddylfryd rhai pobl mae'n gweithio gyda nhw yn prysur fynd yn fwy eithafol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nick Daines yn gweithio i gynllun gwrth derfysgaeth Llywodraeth y DU

"Mae problemau sylweddol ar hyd coridor yr M4 o Gasnewydd hyd at bellafoedd gorllewin Cymru," meddai.

"Roeddwn yn gweithio gyda dyn yn ardal Casnewydd oedd yn casglu llawlyfrau ar gyfer grwpiau parafilitaraidd, ac roedd yn creu ffrwydron ac yn arbrofi â'r rheiny mewn chwarel.

"Roedd hiliaeth yn ei ysgogi ac roedd wedi dod i ganfyddiad fod rhyfel hil ar y ffordd a bod angen i baratoi ar gyfer math yna o ddigwyddiad."

'Ddim yn anghyffredin'

Dywedodd Mr Daines ei fod "yn sicr wedi atal" rhai digwyddiadau treisgar yng Nghymru.

Ychwanegodd fod achosion ble mae pobl yn paratoi ffrwydron neu arfau "ddim mor anghyffredin ac mae pobl yn ei feddwl".

Ond dywedodd fod aelodaeth i o grwpiau asgell dde eithafol yn eithaf bach yng Nghymru, ac nad oes rheswm i'r cyhoedd bryderu.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jon Drake y gall Prevent helpu atal rhywun rhag cyflawni gweithredoedd troseddol

Mae Uwch Swyddogion Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru yn dweud bod hanner eu hamser yn cael ei neilltuo i fynd i'r afael ag eithafiaeth asgell dde - cymaint ag eithafiaeth Islamaidd.

Mae swyddogion yn dweud nad yw'r bygythiad erioed wedi mynd i ffwrdd, ond maen nhw'n annog pobl i gysylltu â nhw os ydynt yn amau ​​bod rhywun yn cael ei radicaleiddio.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jon Drake o Heddlu De Cymru y gall y rhaglen Prevent helpu i atal rhywun rhag cyflawni gweithredoedd troseddol.

"Mae'r math yma o waith fel arfer yn digwydd ymhell cyn bod unrhyw drosedd yn digwydd, gallai olygu fod rhywun angen rhywfaint o gyngor. Mae'r syniad yn y teitl - atal niwed."