Drakeford yn ennill gwobr Gwleidydd y Flwyddyn Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford wedi'i enwi'n Wleidydd y Flwyddyn Cymru yn y gwobrau blynyddol.
Fe wnaeth y beirniaid ganmol y ffaith ei fod wedi "meistroli portffolio sylweddol", a delio 芒 thrafodaethau Brexit a threthi newydd.
Cafodd Eluned Morgan ei henwi'n AC y Flwyddyn, gyda'i chyd-aelod Llafur Carolyn Harris yn ennill AS y Flwyddyn.
Enillydd Ymgyrchydd y Bobl y Flwyddyn oedd Irfon Williams, fu farw ym mis Mai ar 么l arwain ymgyrch hir i geisio gwella'r ddarpariaeth cyffuriau canser i gleifion yng Nghymru.
Ben Lake, gafodd ei ethol yn AS Plaid Cymru dros Geredigion eleni, gafodd wobr y Gwleidydd i'w Wylio.
Ymgyrchu
Fe gafodd y Farwnes Morgan, sy'n AC dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, ei chanmol am ymgyrchu dros economi wledig Cymru.
Roedd Ms Harris yn rhan o dair ymgyrch fawr - ar ffioedd claddu plant, anghyfartaledd pensiynau i fenywod, a thaclo peiriannau gamblo fixed odds.
Cafodd enillwyr y gwobrau, sydd yn eu 13eg blwyddyn, eu dewis gan banel o arbenigwyr ar gyfer ITV Cymru, wedi'i gadeirio gan gyn-bennaeth 91热爆 Cymru, Geraint Talfan Davies.
Mae cyn-enillwyr y brif wobr yn cynnwys cyn-Ysgrifennydd Cymru a'r gweinidog Brexit, David Jones (2016), arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood (2015), ac Ysgrifennydd Cymru ar y pryd Stephen Crabb (2014).